Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

—” Yr oedd y Cawr wedi mynd drwy y drws, ac ni chlywodd Gwilym y gair diweddaf. Pe buasai Gwilym heb fod wedi ei feddiannu mor llwyr a drychfeddwl y Cawr, buasai yn canfod yn awr yn y goleu mai dyn lled dal oedd y Cawr, a chanddo farf fawr ddu, ond drwy eì feddyliau ei hun y gwelai Gwilym.

Yr oedd gwraig y Cawr wedi eu harwain i ystafell oleu braf, fwy anhebyg fyth i garchar, ond hwyrach mai yn y seler yr oedd y carchar, neu mewn rhyw gastell ymhell yn y wlad wrth bod rhaid cael car i fynd yno. Gwelai Gwilym fwrdd wedi ei osod erbyn swper, a chofiodd nad oedd wedi cael bwyd er's meityn iawn. Yr oedd Babi wedi deffro erbyn hyn, ac yn edrych o'i chwmpas â llygaid synedig iawn. Eisteddodd y wraig o flaen y tân a Babi ar ei glin, a thynnodd Gwilym at ei hochr. "O mi 'rydych chi'n oer, pethau bach," meddai hi, gan rwbio dwylaw Babi. Meddyliodd Gwilym mai yn awr oedd yr amser iddo ofyn am iddi hi grefu ar y Cawr beidio gwneyd dim i Babi, ac meddai, gan edrych yn ei llygaid.—"Wnewch chi ofyn i'r Cawr beidio gwneyd dim i Babi. Deudwch wrtho y caiff o fy ngheffyl bach haearn newydd i, mae o yn un neis iawn."

Edrychodd hi arno yn synedig, ond cyn y gallai ateb dyma y Cawr i mewn, ac meddai,—"Rhowch rywbeth i'r ddau bach yma i fwyta, Mary, mae'r car wrth y drws: plant bach Mrs. Price ydynt hwy, byddant yn chwilio am danynt yn brysur mae'n debyg."

“Mae o'n son rhywbeth am ryw Gawr, a'i fod yn mynd i roi ei geffyl haearn newydd iddo am beidio gwneyd dim i Babi,” meddai. Chwarddodd y Cawr nes bron dychrynnu Babi. “Cawn weld,” meddai.