Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lidiart yr ardd, ar hyd y ffordd oedd ar y dechreu yn ddigon cynefin i Maggie; ond buan iawn aeth y llwybr yn hollol ddieithr iddi. Dechreuodd deimlo yn llesg, ac yr oedd ei thraed yn ddolurus gan mor arw oedd y fordd. Pan oedd ar fedr eistedd i lawr gan flinder, daethant i olwg y plas mawr. Yr oedd ei furiau o wydr gloew, fel yr oedd popeth oddimewn i’w weled yn eglur. Y fath bethau prydferth ni welodd Maggie erioed, a safodd i edrych arnynt drwy y muriau.

“A garech chi fyned i fewn?” gofynnodd ei harweinydd iddi.

“Carwn yn lawr,” oedd eì hateb. Aethant ymlaen at ddrws y palas. Uwch ei ben yr oedd y geiriau hyn yn ysgrifenedig mewn llythrennau gloew,—“PLAS DAIONI.” Gyda’i lili wen y cyffyrddodd y foneddiges fechan â'r drws, agorodd ym ebrwydd. Aeth Maggie i fewn, a chaeodd y drws ar ei hol cyn i'w harweinydd ei chanlyn, ac ni welodd y foneddiges a'r wisg flodau mwy.

Teyrnasai distawrwydd mawr oddifewn i'r palas. Safodd Maggie ar ganol llawr y neuadd gyntaf. Ni welai yr un creadur. Y peth cyntaf a dynnodd ei sylw oedd rhes o lythrennau breision ar y mur gwydr o'i blaen, a dyma ddarllennodd,—

“BOB TRO Y BYDDWCH MEWN TYMER DDRWG, NEU Y BYDDWCH YN ANUFUDD, CHWI GEWCH WELED HOLLT YN RHEDEG DRWY UN O'R MURIAU, AC OS A YR HOLLT DRWY YR OLL O'R MURIAU FE DDYMCHWEDL Y PLAS AR EICH CEFN.”

Fflachia y geiriau fel cleddyfau, a theimla Maggie braidd yn edifar ganddi ddod o dan gronglwyd y plas gwydr, er mor brydferth ydoedd Ond wrth edrych ar yr holl ryfeddodau