Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o’i hamgylch, anghofiodd ei hofnau. Cychwynnodd ar daith drwy yr ystafelloedd prydferth. Daeth i un lle yr oedd bwrdd mawr wedi ei osod a phob math o ddanteithion. Teimlai fod arni eisieu bwyd, a meddyliodd y buasai yn mwynhau ychydig o honynt. Sylwodd fod yno un gadair fach wedi ei gosod wrth y bwrdd, ac eisteddodd anni. O’i blaen ynghanol y danteithion yr oedd bowliaid o fara llefrith, ei swper arferol. Nid oedd yn hoff iawn o hono, a llawer oedd wedi rwgnach yn ei erbyn pan oedd gartref. “Chyma i mo'r hen fara llefrith ’na beth bynnag,” —meddai, gan wneyd gwyneb ar y bwyd. Gyda bod y geiriau o’i genau, clywai glec fawr dros yr ystafell, a gwelai hollt ym rhedeg drwy y mur gyferbyn a hi. Cofiodd am y geiriau oedd ar fur yr ystafell gyntaf. Wrth ben yr hollt yr oedd geiriau ereill,—

“BWYTEWCH YR HYN SYDD O'CH BLAEN.”

Cydiodd Maggie yn y fowlen â llaw grynedig, a dechreuodd fwyta y bara llefrith. Wedi iddi ei orffen teimlai yn bur gysglyd, ac edrychodd o’i chwmpas am le i orffwyso. Trwy ddrws agored yr ystafell fwyta gwelai ystafell arall debyg i ystafell wely. Pan aeth i fewn canfu nifer o welyau hardd anghyffredin, yn edrych yn esmwyth ac yn ddeniadol iawn. Ond yn eu canol yr oedd gwely bach tebyg iawn i'r un y byddai hi yn cysgu ynddo gartref. Yr oedd yn bur galed, a meddyliodd y buasai un o’r lleill yn esmwythach o lawer. Wedi iddi dynnu am dani, yr oedd ar fedr gorwedd yn yr un harddai yno, pan redodd rhes o lythrennau fel mellten uwchben y gwely bach caled,—

“GORWEDDWCH YN Y GWELY YMA.”