Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cofiodd Maggie am yr hollt ym mur yr ystafell gerllaw, ac ufuddhaodd i'r gorchymyn, gan roddi ei phen i lawr ar obenydd y gwely bach oedd mor debyg i hwnnw oedd gartref. Gan ei bod wedi blino cysgodd yn drwm; ac yr oedd yr haul yn disgleirio fel tân drwy holl furiau y plas gwydr pan ddeffrôdd bore dranoeth. Yr oedd amryw o wisgoedd hardd yn yr ystafell, a thybiodd Maggie y buasai yn edrych yn neis iawn wedi gwisgo am dani yn un ohonynt, yn lle yn y ffrog stwff a'r brat gwyn oedd ganddi. Ond pan roddodd ei llaw ar ffrog sidan lâs oedd wedi denu ei llygaid, gwibiai y llythrennau yn ol a blaen ar hyd y muriau,—

“RHODDWCH. Y FFROG STWFF A'R BRAT GWYN AM DANOCH.”

Taflodd y dilledyn gwych i ben pellaf yr ystafell, gan ddweyd,—“Cha i ddim byd yn yr hen le yma.” Rhwygwyd y mur o'i blaen gan hollt, a chlywai glec fawr yn swnio yn ei chlustiau. Ac felly drwy y dydd, ni chai gyffwrdd â dim bron oedd yn y plas. Yr oedd yr oll o’r rhyfeddodau,—y teganau a’r darluniau drudfawr,—yn waharddedig. Ond ni welai yr un creadur yn un man yno, ac nid oedd swn llais yn disgyn ar ei chlyw. Dim ond y llythrennau melltenog yn ei chanlyn o hyd, ac weithiau clywai ambell i glec, pan fyddai wedi tramgwyddo yn erbyn rhyw orchymyn. Yr oedd y distawrwydd a'r unigrwydd yn llethol, a daeth hiraeth ar Maggie, nes oedd yn colli golwg ar yr holl brydferthion drwy i'r dagrau ei dallu. Hiraethai am y plant fyddai yn blino cymaint eu gwylio, a hiraethai hyd yn oed am Bob fyddai yn ei blino beunydd â'i driciau a'i ddireidi. Penderfynodd adael y plas pruddaidd, distaw, a’i furiau gloew, a myned adref at ei mam, at y