Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CWYN Y RHOSYN.

TYFAI rhosyn unwaith mewn gardd brydferth. Yr oedd yno lawer rhosyn a blodeuyn arall yn codi eu pennau i dderbyn pelydrau yr heulwen yn yr ardd brydferth; ond nid oedd yr un blodeuyn mor wych a'r rhosyn yma. Yr oedd ei wrid mor ddwfn a'i arogl mor beraidd, ac yr oedd ei ddail gwyrdd yn cau o'i amgylch mor gariadlawn.

Dringai y goeden y tyfai arni i fyny mur y ty oedd yn sefyll yng nghanol yr ardd, ac ar y brigyn uchaf ohoni y lledai y rhosyn ei ddail gwridog. Yr oedd ffenestr fechan gerllaw, a byddai dau lygad tyner yn gwylio y rhosyn bob dydd, ond ni wyddai y rhosyn ddim am hynny ar y dechreu.

Cusanai yr haul ef yn y boreu yn gyntaf o flodau yr ardd, a thywynnai ei belydrau arno drwy y dydd; a phan fyddai cysgodau yr hwyr yn lledu dros yr ardd, byddai y gwlith disglair yn disgyn ar y rhosyn, ac yn ei ddisychedu â'i ddefnynnau grisialaidd.

Canai y fronfraith, y fwyalchen, a llu o adar ereill iddo o'r wawr dan fachlud haul yn y gorllewin pell. A suai yr eos ef i gysgu â'i miwsig peraidd, o dan lewyrch y lloer a'r ser. Ond er hynny i gyd, yr oedd calon y rhosyn yn drist, ac fel hyn y cwynai wrtho ei hun ryw foreu hafnaidd,—

“Dyma fi yn y fan yma, nis gallaf symud i wneyd daioni i neb; mae yr adar yn gallu ehedeg yn yr awyr, ac yn gallu gwneyd pobl yn ddedwydd â'u cân; ond, am gwneyd pobl yn ddedwydd â'u cân; ond, am danaf fi, nis gallaf roddi mwynhad i unrhyw un.