Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr wyf allan o gyrraedd gwneyd daioni i fyny yn y fan yma. Mae meistresi yr ardd yn dod ac yn arogli y blodau ereill, ac yn eu dodi yn eu mynwes. O mor ddedwydd y maent yn teimlo! Ond druan ohonof fi!”

A phlygodd y rhosyn ei ben, a wylodd ddagrau mawr o wlith i lawr o ddeilen i ddeilen. Yn y man daeth awel dyner ac ysgydwodd y goeden, ac a blygodd y rhosyn prydferth yn agosach i'r ffenestr fach. Ac yna clywodd lais gwan yn dweyd,— “Symudwch y cyrten dipyn bach, mam, er mwyn i mi weled fy rhosyn anwyl. Mae yna bob dydd yn edrych arnaf. Mae yr adar yn ehedeg i ffwrdd mewn munud, ond mae y rhosyn coch yn aros o hyd, ac yr ydwyf yn ei garu.”

Synnodd y rhosyn braidd wrth glywed ei hun yn cael ei ganmol fel hyn, a chododd ei ben, ac yr oedd dedwyddwch yn llanw ei galon wrth feddwl ei fod yntau hefyd yn rhoddi boddhad i ryw un, ac yn peri difyrrwch i blentyn claf oedd yn gorwedd drwy y dydd ar ei gwely cystudd. Ac o hynny allan siriolodd y rhosyn, a cheisiai ddangos eì hun yn fwy-fwy yng ngolwg y ffenestr. Nid oedd yn grwgnach am nad oedd, fel yr adar, yn gallu ehedeg yma ac acw a chanu yn beraidd, ac yr oedd yn dda ganddo hefyd ei fod allan o gyrraedd dwylaw y rhai fyddai yn rhodio drwy yr ardd fel nas gallent ei dorri a'i dynnu o olwg y ffenestr fach.

Ond fel yr oedd yr haf yn treulio teimlai y rhosyn fod ei oes fer bron ar ben. Yr oedd llewyrch tanbaid yr haul yn awr yn peri iddo bron llesmeirio, ac nid oedd ond disgwyl i'w ddail ddechreu syrthio o'i amgylch, a gofidiai yn ddwys wrth feddwl na fyddai yno yr un rhosyn