Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ANWYLAF.

I. Y CARDOTYN A'R FORWYN FACH.

DRAW ymhell yn y wlad lle mae yr haul yn codi, safai, lawer oes yn ol, ddinas wych ar lan afon. Mor loew oedd dyfroedd yr afon fel yr oedd tyrau a muriau gwyn y ddinas i'w gweled ar ei gwyneb fel mewn drych. Trwy y dydd y tywynnai yr haul ar y ddinas wych, a deuai y lloer a'r ser i'w gwylio yn yr hwyr, ac nid oedd dinas harddach yn yr holl wlad, a buasech yn meddwl nad allai na thristwch na gofid drigo o'i mewn.

Ac yn byw yn y ddinas yr oedd dynion tlawd a dynion cyfoethog,—yr oedd yno lawer mwy o dlodion nac o gyfoethogion. A brenin y wlad honno a osododd lywodraethwr ar y ddinas wych, i edrych ar ei hol ac i'w rheoli. Enw y gŵr yma oedd Iestyn. Ymhen ychydig amser wedi iddo gael ei ddyrchafu i'w swydd, efe a ddechreuodd gasglu cyfoeth ynghyd, a phwy fwyaf yr oedd yn ei gael mwyaf y fyddai arno eisieu, a phan na fedrai ei gael drwy ffordd iawn aeth ati i ysbeilio trigolion y ddinas, gan fod yn greulon tuag atynt, a gorfodi iddynt dalu iddo ef eu henillion, drwy ddweyd fod y brenin wedi gorchymyn iddo eu trethu. Yr oedd ei gyfoeth mor fawr fel yr oedd ei blas bron yn rhy fychan i gynnwys yr holl drysorau.

Ond os oedd gan Iestyn gymaint o bethau gwerthfawr, yr oedd un peth gwerthfawrocach na'r cyfan ar ol,—nìd oedd yn meddu serch un creadur; yn ei garu nid oedd na gŵr na gwraig na phlentyn. Yr oedd ganddo lawer o weision a morwynion yn gweini arno yn ei blas, ond yr oedd pob un o honynt yn ei ofni ac yn ei gashau o