Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

waelod eu calon. A chan eu bod yn cael eu gorthrymu gan eu meistr, yr oeddynt hwythau yn myned yn debyg iddo, ac yn gorthrymu y gwan a'r tlawd ar bob achlysur.

Ryw ganol dydd poeth daeth at borth y plas gardotyn. Yr oedd yn ymddangos fel hen ŵr, a'i gefn wedi crymu, ac yn rhoddi ei bwys ar ei ffon. Carpiog iawn oedd ei wisg, a gwelw iawn ei wyneb, ond yr oedd ei lygaid yn glir a miniog fel dur, ac edrychai'r cardotyn o'i amgylch fel un yn argraffu'r olygfa ar ei gof. Gofynnodd i'r gwas ddaeth i edrych pwy oedd yn curo, am lymaid o ddwfr i dorri ei syched yng ngwres y dydd. Ond gwrthododd hwnnw yn sarrug roddi defnyn iddo, a danfonodd ef ymaith gan ddweyd yn sarhaus,—

“Os na wnei di brysuro dy gamrau, hen ŵr, rhaid galw ar y meistr, a bydd yn waeth arnat ti. Mae o wedi gwneyd cyfraith i garcharu pob cardotyn."

A chaeodd y porth haearn gyda chlonc drystfawr.

Ond yn gwrando ar y gwas a'r hen gardotyn yr oedd morwyn fach perthynol i'r plas. Hi oedd y forwyn isaf yn y tŷ, ac i'w rhan hi y byddai y dyledswyddau mwyaf darostyngol yn syrthio. Ond ni fyddai hi ddim yn grwgnach. Byddai y gweision a'r morwynion eraill yn ei thrin yn chwerw iawn. Nid oedd yn cael bwyd gan gystal a hwy, ac ni chai eistedd gyda hwy wrth y bwrdd yn neuadd y morwynion. A byddai hi yn arfer myned a'i phryd allan i'r cyntedd, ac eistedd yno ar un o'r meinciau cerrig i fwyta ei thamaid. A dyna lle 'roedd hi yn bwyta eì chiniaw o fara sych a dwfr pan glywodd hì ddeisyfiad yr hên gardotyn, a'i ateb mor chwerw gan y gwas. Pan aeth hwn o'r golwg,