Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

agorodd y porth mawr yn ddistaw, a rhedodd yn ysgafn ar ol yr hen gardotyn. Nid oedd efe wedi myned ymhell. A phan deimlodd efe ei llaw ar ei fraich trodd ati. Meddyliodd mai cardotes fach yr un fath ag ef oedd hi, canys yr oedd ei gwisg bron mor garpiog a'i wisg yntau. Yr oedd ei thraed yn noeth, a disgleirient fel ifori yng nghanol y glaswellt oedd ar fin y ffordd lle 'roedd hi'n sefyll. Nid oedd ganddi ddim i orchuddio ei gwallt, oedd yn disgleirio yn yr haul fel coron brenhines. Syllodd y cardotyn arni, a meddyliodd nad oedd erioed wedi gweled gwyneb mor brydferth a mor brudd. Estynnodd yr eneth ei thamaid bara iddo, a rhoddodd y cwpan yn ei law, gan ddywedyd,—

“Clywais di yn gofyn am ddiod. Dyma i ti damaid o fara gydag ef.”

Ac edrychodd arno â dau lygad glas llawn o dosturi. Yr oedd yn gwybod beth oedd eisieu bwyd, er ei bod yn byw ym mhlas y gŵr cyfoethocaf yn y ddimas, ac yr oedd yn gallu cydymdeimlo âg ef. Eisteddodd y cardotyn ar ochr y ffordd i fwyta y tamaid ac i dorri ei syched â'r dwfr, a safodd y forwyn fach wrth ei ymyl yn ei wylio. Wrth roddi y cwpan yn ol iddi gofynnodd,—

“O ba le y daethost ti, fy ngeneth dlos i?”

“Morwyn ydwyf yn y plas, a fy enw ydyw Anwylaf.”

"Yr ydwyf yn diolch i ti, Anwylaf, am dosturio wrth hen gardotyn tlawd; bydded bendith y nefoedd arnat ti.”

“Mi fuasai yn dda gennyf pe buasai gennyf rywbeth gwell i'w roddi i ti, ond nid oes gennyf arian na dim byd gwerthfawr arall. Ond mae gennyf un peth, a mi a'i rhoddaf i ti,—mae gennyf aderyn bach dof. Mi fyddaf yn ei gadw