Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mewn agen ym mur fy ystafell, a phan fydd pawb yn y plas yn cysgu byddaf yn ei ollwng allan, ac yna fe fydd yn canu i mi nes bydd fy nghalon yn llawenhau. Canys wrth ei wrando byddaf yn cofio am amser dedwydd pan nad oeddwn yn forwyn ym mhlas llywodraethwr y ddinas. A mi roddaf yr aderyn i ti, er mwyn i tithau gael ychydig o ddedwyddwch wrth gofio am amser oedd yn deg, oherwydd yr wyt yn edrych yn fwy truenus na fi.”

Daeth deigryn i lygaid gloew y cardotyn, ac meddai mewn llais tyner iawn,—

“Cadw dy aderyn bach, Anwylaf, mi gaf fi ddedwyddwch yn fuan, a chei dithau weled dyddiau teg iawn. Paid anghofio yr hen gardotyn na'i eiriau.”

Ac aeth oddiwrthi yng nghyfeiriad un o heolydd y ddinas. Safodd Anwylaf am ennyd yn edrych arno yn cerdded yn araf, a'i bwys ar ei ffon, gan geisio dyfalu beth oedd ystyr ei eiriau, ac yna rhedodd yn ei hol i'r plas, lle y cafodd gerydd tost am fyned tu allan i'r porth.

II. CROESAW'R TYLAWD.

Trwy y dydd hwnnw y crwydrodd yr hen gardotyn ar hyd heolydd y ddinas wych, gan gardota o ddrws i ddrws, ond ni roddodd neb ddim iddo. Yr oedd y gwŷr cyfoethog yn rhy brysur gyda phleserau o bob math, a'r gwŷr tlodion hwythau yn rhy brysur gyda'u gofidiau, fel na chafodd efe sylw gan y naill na'r llall. Pan oedd yr haul yn machludo dros y ddinas wych, gan gochi y tyrau gwynion a'r muriau, a gwneyd yr afon fel llinell o dân, daeth y carotyn at ddrws tŷ yn sefyll yn un o heolydd culaf a mwyaf distadl y ddinas. Curodd yn