Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddistaw, gan ddisgwyl cael ond yr un atebiad nacaol ag a gafodd wrth bob drws arall. Yr oedd yn teimlo yn flinedig iawn, a buasai yn hoffi cael gorffwys am ennyd. Agorwyd y drws gan hen ŵr trist iawn ei wyneb. Gofynnodd y cardotyn iddo am gardod, ac atebodd yr hen ŵr,—

“Yr ydym yn ddigon tlawd ein hunain, ond cewch ran o'r hyn sydd gennym, dewch i'r ty.”

Canlynodd y cardotyn ef i'r ty, a gwnaeth yr hen ŵr iddo eistedd wrth y bwrdd. Yr oedd gwraig yn paratoi swper, a rhoddodd hithau groesaw iddo i'r hyn oedd ganddynt.

Ymhen ychydig o amser gosododd y wraig ddysglaid o botes wedi wneyd o ddalen poethion ar ganol y bwrdd, a thamaid o fara, a gwydriad o ddwfr wrth ochr plât bob un. Edrychai y ddau hen bobl yn bur drist o hyd, ac ni siaradent bron air; ond cymhellasant y cardotyn yn garedig i fwyta. A phan, wedi iddo orffen, yr oedd ar fedr troi allan i'r heol, gwahoddasant ef i aros gyda hwy y noson honno, a chydsyniodd yr hen gardotyn yn bur ddiolchgar, canys yr oedd wedi blino yn fawr. Ond wrth weled y ddau yn edrych mor drist, a'r dagrau yn codi o hyd i lygaid yr hen wraig, ni allai ymatal rhag gofyn iddynt achos eu tristwch, yna yr hen ŵr a atebodd mydag ochenaid,—

“Ym mhen tridiau, os na fedraf dalu swm o arian sydd ddyledus arnaf i Iestyn, llywodraethwr y ddinas, fe enfyn ef ei weision yma i'm dwyn i'r carchar. Nid oeddym ni yn dlawd bob amser, yr oedd genmym ddigon i ni ein hunain ac i roddi i eraill, ond daeth gorchymyn at Iestyn oddiwrth y brenin fod iddo drethu holl drigolion gweithiol y ddinas, ac y mae y dreth honno wedi llyncu ein cyfoeth ni i gyd, fel nad oes gennym