Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddim i dalu yr hyn mae efe yn ei ofyn i mi ymhen tridiau.”

“Ie,” meddai'r hen wraig, “a gwaeth na hynny, yr oedd gennym mi saith o blant, a buont feirw bob un y naill ar ol y llall, a ganwyd i ni wedyn un eneth, yr hon a alwasom yn Anwylaf, am ei bod yr anwylaf o'r plant i gyd... A hi a dyfodd i fyny yn eneth dda i ni, ac yr oedd fel perl yn ein golwg. Ac angau a'i gadawodd inni, i'n llonni. Ond ychydig amser yn ol, danfonodd Iestyn un o'i weision yma i fyned ag Anwylaf oddiarnom i weini ym mhlas ei feistr. Ac ni welsom byth mohoni. Feallai ei bod wedi marw, canys gŵr creulon ydyw Iestyn, ac nid ydyw Anwylaf erioed wedi arfer gweithio yn galed.”

A chuddiodd ei gwyneb yn ei ffedog.

“Peidiwch a wylo, mi welais i Anwylaî heddyw, a chewch chwithau ei gweled cyn pen chydig amser. Peidiwch anghofio y cardotyn na'i eiriau.”

Yna y dechreuodd hi ei holi ynghylch Anwylaf, pa fodd yr edrychai. A'r cardotyn a ddywedodd,—

“Ni welais i yr un fun mor brydferth a'th ferch Anwylaf, o goron ei phen euraidd hyd wadn ei throed bach gwyn, ac nid oes yr un mwy rhinweddol a chalon dyner na hi yn holl wlad y brenin.”

A boddlonodd yr hen wraig ar y ganmoliaeth yma, ac ni allai wneyd digon o groesaw i'r cardotyn. Ond aeth efe ymaith gyda thoriad y wawr, cyn i'r ddau ddeffro o'u cwsg.

Y diwrnod hwnnw daeth cenadwri at Iestyn oddiwrth y brenin, i ddweyd ei fod am ddod ar daith drwy y ddinas y diwrnod canlynol. Ac yna Iestyn a ddechreuodd wneyd parotoadau mawr i dderbyn y brenin i'w blas, canys yno ym