Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sicr yr arhosai i orffwys. A bwriadodd Iestyn wneyd gwledd odidog i'w groesawu, a gwahoddodd holl gyfoethogion y ddinas iddi. Yr oedd gweision a morwynion Iestyn i sefyll yn rhengau wrth borth y plas pam fyddai y brenin yn myned i fewn; pob un mewn gwisg newydd brydferth, ond nid oedd Anwylaf i fod yn eu mysg. A hi a wylodd yn ddistaw ar ei gwely y noson honno; canys buasai hithau yn hoffi cael gweled y brenìn.

A holl bobl y ddinas a wnaethant baratoadau ar gyfer ei ddyfodiad, ond ni chymerai tad a mam Anwylaf dim dyddordeb ynddynt, oherwydd nid oedd ond deuddydd eto o ryddid iddynt, ac yna byddent yn cael eu dodi mewn cell dywell heb weled na goleu haul, na goleu lloer, na chael golwg ar ddyfroedd yr afon byth mwy, canys nì îyddai neb byth yn cael ei ollwng o garchar Iestyn.

A'r diwrnod wedyn yr agorwyd porth mawr y ddinas wych, a daeth y brenin i mewn yn ei gerbyd euraidd, yn cael ei dynnu gan bedwar march gwyn, a'i farchogion yn marchogaeth wrth ochr y cerbyd. Ac edrychai'r oll yn odidog a dewr. Disgleiria'r haul ar eu harfau gloew, ac ar eu gwisgoedd hardd. Ond y mwyaf dewr ac ardderchog oedd y brenin ei hun. Yr oedd ganddo fantell o borffor a choron o aur ar ei ben. Ond yr oedd ei wynepryd yn brydferthach na'i wisg, er godidoced oedd honno. A thramwyasant drwy y ddinas hyd oni ddaethant at blas Iestyn, ac yna y safodd y meirch yn llonydd, a daeth Iestyn allan ac a benliniodd o flaen y cerbyd gan ddeisyf ar i'r brenin ddisgyn ac anrhydeddu ei blas a'i bresenoldeb. Ond ni wenodd y brenin arno, ac ni chododd oddi ar y glustog lle'r eisteddai,