Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

canys yr oedd brenhinoedd yn y dyddiau hynny yn gwneyd pethau na wneir ganddynt yn y dyddiau hyn. A phan oedd ar ymadael y boreu, deisyfodd gan rieni Anwylaf un peth, cael eu merch yn wraig iddo. A thad a mam Anwylaf nid oeddynt foddlawn yn eu calonnau i ymadael â hi, yr oedd iddynt fel un wedi dod yn ol oddiwrth y meirw; eto, hwy a ofnasant nacau y brenin. Yna ei mam a ddywedodd,—

“Fel y dywed Anwylaf y dywedwn ni. Os ydyw hi yn foddlawn i fyned gyda chwi, nid allwn ni ei rhwystro.”

Ac edrychodd ar ei merch. Yna trôdd y brenin at Anwylaf, ac meddai,—

“O Anwylaf, anwylaf yn wir i mi, a ddeui di gyda mi, i fod yn wraig, yn frenhines i mi, i wisgo coron, ac i eistedd wrth fy ochr ar fy ngorsedd?”

Hithau a edrychodd ar ei thad a'i mam, ac ar wyneb y brenin, ac yna daeth a safodd o'i flaen gan blygu ei phen, a phlethu ei dwylaw. A hi a ddywedodd,

“O frenin, yr wyf yn dy garu, tydi dy hun, dy ben, dy ddwy law, a'th draed, ac nid dy goron, na dy orsedd; ond mae fy nhad a fy mam yn fy ngharu innau, ac yr wyf wedi bod fel dieithryn iddynt ers amser maith, ac yn awr y maent yn llawenhau am fy nghael yn ol, a gaffi droi eu llawenydd yn dristwch trwy eu gadael eto? Ni fyddai hynny yn ymddwyn yn dosturiol tuag atynt, ac felly, O frenin, rhaid iti ymadael heb Anwylaî, ond mi fyddaf yn hiraethu am danat.”

A disgynnodd y dagrau i lawr, lawr hyd ei thraed. Yna y brenin a ymaflodd yn ei llaw, ac a drôdd at ei thad a'i mam, ac meddai, —

“Chwi glywsoch beth a ddywedodd, ac yn awr, os rhoddwch hi i mi, hi a fydd y trysor