Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y GOEDWIG DDU.

I. YR HELWYR GWYLLT.

YN yr amser pan fyddai y bodau bychain hynny, y tylwyth teg, yn gwneyd eu cartref ymhlith dynion, yr oedd yn trigo mewn bwthyn bychan ar fin coedwig dri o frodyr,—Gwilym, Robert, a Dafydd. Helwyr oeddynt, a gelwid hwy yn helwyr gwylltion am eu bod mor ddi-ofn a beiddgar, yn mentro i bob perygl heb ymdroi. Safai y bwthyn mewn lle unig iawn. O'i flaen ymestynnai y môr, gan belled ag y gwelai y llygaid; a phan fyddai y brodyr wedi blino ar hela y ceirw a'r anifeiliaid ereill oedd i'w cael yn y goedwig, cymerent eu cwch ac aent allan i bysgota. Tu ol i'r bwthyn yr oedd y goedwig fawr dywyll. Yr oedd y tri brawd yn adnabod bron yr holl o honi, er mor fawr a thywyll oedd; ac nid oeddynt yn hoffi dim yn fwy na chrwydro drwyddi ar ol yr anifeiliaid gwylltion, ac ni fyddent byth yn dychwelyd i'r bwthyn heb ddwyn rhyw greadur gyda hwynt, yr hwn yr oeddynt wedi ei ladd yn ystod y dydd.

Yr oedd Gwilym a Robert, ynghyda Dafydd, yn meddwl eu bod yn ddynion dewr iawn, ac nad oeddynt yn ofni dim allai eu cyfarfod. Ond er eu holl ddewrder, yr oedd un rhan o'r goedwig na feiddient fyned yn agos ati. Yr oedd y mynediad iddi mor dywyll, mor ddu, fel yr oedd yn edrych fel canol nos pan oedd yr haul yn tywynnu wrth ymyl y bwthyn. Ni wyddai neb beth oedd yn y rhan honno o'r goedwig. Dywedai rhai fod swynwr yn byw yno, mewn plas yn llawn o bob peth dychrynllyd, a bod bwystfilod rheibus yn gwau drwy y coed o amgylch y