Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

plas; ac os safech i syllu yn hir, y gwelech eu lygaid tanllyd yn dìsgleirio yn nhywyllwch y coed. Ac ar hanner nos dywedid y gellid clywed eu rhuadau am filldiroedd lawer.

Nid oedd y tri brawd hyn yn ddynion nodedig am eu daioni na'u caredigrwydd. Ond yr oedd y tri yn caru un peth gymaint ag oedd yn eu calon i garu. Yr oedd iddynt un chwaer. Hi oedd yr ieuengaf ohonynt. Bronwen oedd ei henw. Yr oedd ei llygaid fel yr awyr ganol dydd haf, ei gruddiau fel y rhosynau oedd yn tyfu yng ngardd y bwthyn, ei chroen fel yr eira pan newydd ddisgyn, a'i gwallt yn disgleirio fel goleu yr haul. Pe buasai rhywun yn dweyd wrth un o’i thri brawd fod geneth fwy prydferth i’w chael yn y byd yn rhywle, ni fuasent yn ei goelio, na phe buasai yn dweyd fod un yn debyg iddi. Eu Bronwen bach anwyl oedd hi, ac yr oeddynt yn meddwl eu bod yn ei charu yn fwy nag oeddynt yn caru eu hunain. Ac yr oedd hithau yn eu caru hwy yn fawr. Tybiai nad oedd neb mor ddewr, mor gryf a hwy. Pan fyddai y tri wedi myned allan ì'r goedwig i hela, trefnai Bronwen y bwthyn; ac erbyn eu dychweliad yn yr hwyr, byddai pob man yn lân a gloew, a swper yn eu disgwyl ar y bwrdd wrth y tân. Wrth ddynesu at eu cartref chwythai un o'r brodyr ei gorn, a byddai y drws yn agor mewn eiliad, a’r peth cyntaf welai y tri wrth ddod i olwg y bwthyn fyddai Bronwen yn rhedeg i'w cyfarfod, a’i gwallt yn chwifio tu ol iddi fel baner aur.

Yr oedd telyn yn sefyll mewn un gongl o’r bwthyn, a phan fyddai yr helwyr yn eistedd wrth y tân wedi gorffen eu pryd bwyd, tynnai Bronwen hi i ganol y llawr, ac yna eisteddai ar