Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

stôl a chwareuai arni hen ganeuon oedd yn anwyl ganddynt i gyd.

Yr oedd un arall yn byw gyda'r tri brawd a’u chwaer Bronwen. Hanner brawd iddynt oedd. Gruffydd oedd ei enw. Os oedd y tri heliwr yn caru eu chwaer Bronwen, yr oeddynt yn casau eu hanner brawd â chas mwy na’u cariad at Fronwen. Nid oedd ganddynt reswm am hyn; ni fyddai Gruffydd yn gwneyd dim i’w digio, ond ceisio eu boddio ymhob modd; ond mwyaf ufudd a gostyngedig fyddai Gruffydd, mwyaf brwnt a chas fyddai y tri wrtho. Yr oedd y tri brawd yn hŷn na Gruffydd lawer o flynyddau. Buasai ef yn hoffi yn fawr gael myned i'r goedwig i hela gyda hwy; ond pan ofynnai iddynt am gael myned, chwarddent am ei ben yn ddirmygus, gan ddweyd,—“Tydi fyned i'r goedwig, nid ydwyt ddigon cryf a dewr, buasai y bwystfilod yn dy lyncu ar unwaith.” A gorchymynent iddo aros gartref i dorri coed a chodi dŵr o'r ffynnon. Nid oedd Gruffydd yn grwgnach gwneyd hyn, ond yr oedd arno eisiau gweld y goedwig, a'i ddymuniad mwyaf oedd cael bwa a chod o saethau fel ei îrodyr.

Er fod Gwilym a'i ddau frawd mor ddirmygus ohono, yr oedd Gruffydd yn caru y tri ac yn eu hedmygu yn fawr. Meddyliai nad oedd dynion tebyg iddynt i’w cael yn unman. Ac am Bronwen, buasai yn rhoddi ei fywyd drosti. Nid oedd hi yn ei ddirmygu ac yn ymddwyn yn angharedig tuag ato. Yr oedd calon Bronwen yn rhy dyner i wneyd hynny, ond gwyddai Gruffydd nad oedd hi ddim yn ei garu fel y carai hi ei brodyr. A pha ryfedd? Yr oeddynt hwy yn dal, yn syth, a chryf, yr oedd eu llygaid yn las a disglair, eu gwallt yn felyn, a’u