Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gruffydd i gongl dywyll y naill du i'r aelwyd, ac yno yr eisteddodd a'i ben yn pwyso ar y pared. Wedi iddynt orffen eu swper cododd y tri heliwr oddiwrth y bwrdd, a chymerodd un dorch o binwydd, a goleuodd hi wrth y tân ar yr aelwyd; a chymerodd y tri eu bwa a’u saethau, ac yr oeddynt yn cychwyn i'r goedwig drachefn i geisio Bronwen. Wrth eu gweled yn paratoi i fyned allan crefodd Gruffydd am gael myned i’w canlyn, ond atebodd Gwilym ef yn sarrug,—“Ni fyddwn yn hoffi cael cwmni un llwfr. Pe buasai bachgen dewr wedi ei adael gyda Bronwen mae’n debyg y buasai hi yma i'n croesawu ni heno.” Ac aeth y tri allan, gan adael Gruffydd ei hunan yn y bwthyn.

Pan oedd y wawr yn torri dros ben y mynydd mawr tua’r dwyrain, dychwelodd y tri brawd, ond heb Bronwen. Am bedwar diwrnod y ceisiasant hi, a dychwelent bob nos i'r bwthyn i dywallt eu llid ar Ruffydd. Cwynent yn fawr mor anifyr ydoedd heb Bronwen i’w gwneyd yn gysurus, nid oedd neb i ganu’r delyn iddynt pan yn flinedig ar ol crwydro drwy y goedwig. Ond yr oedd Gruffydd heb yr un meddwl am neb ond am Bronwen. Beth oedd wedi digwydd iddi?

Ar y bumed noson ar ol ymadawiad disymwth Bronwen, cafodd y tri brawd freuddwyd. Yr un breuddwyd ddaeth i'r tri. Gwelsant ddynes fechan yn sefyll wrth droed eu gwely. Ni welodd yr un o honynt neb prydferthach. Yr oedd yn fwy prydferth na Bronwen eu chwaer. Sut wisg oedd am dani ni allent ddweyd, ond yr oedd yn disgleirio fel y goleuni fyddent yn weled yn y dwyrain, pan yn cychwyn i hela gyda’r dydd. Yr oedd dwy aden loew ganddi, un ar bob ysgwydd. Ar ei phen