Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr oedd coron o flodau mor deg ag oeddynt o ddieithr i’r tri. Yn ei llaw yr oedd gwialen arian. Syllodd arnynt am funud, ac yna meddai mewn llais clir,—

“Yr wyf fi yn un o'r tylwyth teg sydd yn hoffi gwylio a chynorthwyo dynion. Prydferth yw fy enw. Yr wyf yn gwybod eich bod wedi colli eich chwaer a dywedaf i chwi pa le y mae, a’r ffordd i chwi ei chyrchu yn ol. Yr ydych yn cofio yr hen ŵr a gyfarfuasoch yn y goedwig y dydd o’r blaen. Gwas oedd i’r swynwr sydd yn byw yn y Goedwig Ddu. Yr ydych yn cofio eich bod wedi gwawdio yr hen ŵr, ac er tâl i chwi am eich ymddygiad angharedig, newidiodd y gwas hwnnw ei hunan i aderyn mor deg, mor brydferth, na welwyd ei debyg yn y wlad yma. Ehedodd o amgylch y bwthyn yma a dechreuodd ganu y gân felusaf a glywodd clust; ac yna daeth Bronwen allan i weled yr aderyn oedd yn canu mor bêr.” Ehedodd yr aderyn o’i blaen gan ei denu ar ei ol i ddyfnderoedd y Goedwig Ddu, ac yno y mae, ym mhlas y swynwr. Ac yn awr ni allaf wneyd dim mwy i chwi na dweyd, os ewch i’w cheisio, pan ddeuwch at borth y plas, y dywedir i chwi pa beth fydd raid i chwi ei wneuthur yn ychwaneg i’w chael o afaelion y swynwr. Yr wyf yn gwneyd hyn am fy mod wedi clywed eich bod yn caru eich chwaer yn fawr. Ond yr wyf yn eich cynghori i beidio gwawdio neb yn y dyfodol, gan na wyddoch beth ddigwydd i chwi am hynny. Mae y ffordd drwy y Goedwig Ddu yn arw a blin, ac yr wyf yn gadael i chwi ffon i’ch cynorthwyo.”

Deffrodd y tri ac adroddasant wrth eu gilydd yr hyn oeddynt wedi weled. Penderfynasant mai brenddwyd heb ystyr iddo oedd; ond pan