Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

drwyddi nes dod at y plas, pan safodd Prydferth wrth ei ymyl, a rhoddodd yr un cyfarwyddyd iddo ag i'w frodyr.

Wedi i Ruffydd deithio ychydig drwy y coed dechreuodd y ffordd fyned yn galed iawn. Yr oedd y llwybr yn llawn o gerrig miniog, y rhai a dorrent ei draed. Mewn ambell i fan byddai y drain mor ddyrus fel y byddent yn torri ei ddillad nes oeddynt yn hongian yn gudynau am dano. Ond pan fyddai y drain fwyaf creulon, a’r cerrig yn fwyaf miniog, cofiai Gruffydd am eiriau Prydferth y byddai ef yn sicr o lwyddo i ddwyn Bronwen o ddwylaw y swynwr, a chydiai yn dynach yn ei ffon lwyd; a byddai ei ddoluriau yn lliniaru ychydig wrth wneyd hynny.

Pan oedd wedi cerdded tua phum milltir, gwelai dri o ddynion yn sefyll ar ganol y llwybr ychydig o'i flaen, ac wrth graffu arnynt cafodd mai ei frodyr oeddynt, a chiliodd tu ol i lwyn o ddrain wrth ymyl. Clywai Gwilym yn dweyd wrth y ddau arall,—“Ni fedraf fi fyned gam ymhellach, ni fedrwn byth gyrraedd y plas ar hyd ffordd fel hon, yr wyf yn cynnyg ein bod yn troi yn ol.” Ond ni fynnai Robert a Dafydd wneyd hynny, ac aethant hwy yn eu blaen, a throdd Gwilym ei wyneb tua chartref. Syllodd Gruffydd arno wrth iddo fyned heibio i'r llwyn drain lle yr oedd yn ymguddio, a gwelodd fod golwg truenus arno. Yr oedd ei ddillad yn garpiau, gan fel yr oedd y drain wedi eu dryllio, a’i draed yn gwaedu, ac yr oedd ei gerddediad yn anhebyg iawn i fel yr oedd wrth iddo gychwyn yn y bore.

Aeth ddau arall ymlaen, a dilynodd Gruffydd hwy a’r llinell goch o bell. Gwelodd y ddau o'r diwedd yn sefyll i siarad, ac wedi ychydig funudau aeth Dafydd yn ei flaen ei