Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ni wyddai weithiau pa un ydoedd y llinell oedd i’w chanlyn. Ond pan fyddai am droi o’r iawn gyfeiriad, byddai y ffon lwyd yn glynu yn dynn yn y ddaear, ac wrth iddo sefyll byddai yn ei dynnu i ymyl y wir linell. Pan ar y gwastadedd sych tywodlyd, daeth syched mawr ar Gruffydd. Edrychai o'i amgylch am ffynnon neu afon; ond ni welai ddim ond tywod, tywod ym mhob man. Yr oedd bron a syrthio, ac yn meddwl na buasai byth yn gallu cyrraedd y palas lle yr oedd Bronwen. Eisteddodd i lawr ar y tywod, ac wrth deimlo fod ei waith yntau hefyd yn ofer, llifai y dagrau heilltion dros ei ruddiau, ac yr oeddynt yn llosgi fel tân. Yr oedd y ffon lwyd wedi syrthio wrth ei ochr; ac wrth iddo ei chodi gan feddwl myned yn ei flaen tra y parhai ei nerth, gwelodd ffrwd fechan loew yn treiglo yn y lle yr oedd y ffon wedi gorwedd. Aeth ar ei liniau wrth ei hochr, ac yfodd gyda mwy o foddhad nag a deimlodd erioed o’r blaen wrth brofi dwfr. Gyda ei fod wedi cael digon, suddodd y ffrwd i’r tywod, ac ni welodd Gruffydd ddim golwg arni wedyn.

Aeth ymlaen wedi hyn yn fwy calonnog, ac yn fuan daeth y nos, a gwelai y llinell o dân fel ar y noson cynt. Gyda gwawr y dydd dilynol, yr oedd yr hin wedi newid yn hollol. Yr oedd efe eto ar ganol gwastadedd mawr; ond yn lle tywod dan ei draed, yr oedd eira gwyn yn gorchuddio bob man. Chwythai y gwynt nes oedd bron a’i daflu i lawr. Curai y cenllysg mawr ar ei ben â chymaint o nerth a min fel yr oedd yn tynnu gwaed o'i ruddiau. Ac fel yr oedd y gwres y dydd blaenorol, felly yr oedd yr oerni yn awr. Safodd Gruffydd am eiliad i gael ei anadl, a phan ar gychwyn drachefn ni fedrai symud ei draed, yr oedd wedi rhewi yn y