Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddaear. Ni wyddai pa fodd i ddod yn rhydd. Yr oedd yn myned yn fwy dinerth o hyd; syrthiodd y ffon lwyd o’i law rewllyd a disgynnodd wrth ei draed. Ymhen ychydig eiliadau teimlai Gruffydd fod ei draed yn rhydd, a chan godi y ffon bach oedd wedi gwneyd dwy cymwynas mor fawr iddo, cychwynnodd drachefn.

Maith iawn oedd y gwastadedd hwnnw, a gwelai Gruffydd y llinell goch yn ymestyn draw i’r pellder. Yr oedd yn ofni weithiau na chai ef byth weled Bronwen, ond ni feddyliodd unwaith am droi yn ol. Os byddai farw ar y gwastadedd llydan oer, byddai yn sicr o farw o hiraeth am Bronwen pe bai yn gallu cyrraedd y bwthyn hebddi.

Erbyn boreu y trydydd diwrnod o’i daith yr oedd Gruffydd wedi cyrraedd terfyn y gwastadedd. Gwelai yn awr dir coediog, ond nid mor wyllt a thywyll a'r Goedwig Ddu. Gwelai hefyd dyrau plas yn ymgodi drwy y coed; ond rhwng Gruffydd a’r rhan yma yr oedd afon ddu ddofn yn rhedeg yn gryf. Llamai ei thonnau duon yn erbyn yr ochrau caregog. Rhedai y llinell goch ar draws yr afon, ac yr oedd Gruffydd yn meddwl y buasai raid iddo roddi heibio bob gobaith am weled Bronwen, gan nad allai ddychmygu pa fodd i groesi'r dwfr du. Ond tra yr oedd yn digalonni fel hyn clywodd lais Prydferth yn dweyd yn ei glust,—

“Tafl y ffon lwyd ar draws y lli, gwneiff bont i ti groesi at y plas.”

Gwnaeth Gruffydd fel y gorchymynnodd y llais, a gwelodd y ffon yn sefyll uwch y dwfr, a’i dau ben yn gorffwys un ar bob ochr i’r afon. Gwan iawn oedd y bont. Siglai o dan bwysau Gruffydd, ac yr oedd mor gul fel nad oedd arni le iddo bron roddi ei droed. Lluchiai y tonnau