Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A gwelodd Gruffydd Prydferth yn sefyll oddi-allan, ac wrth ei hochr yr oedd cerbyd gwyn ar ffurf crogen ac yn disgleirio fel grisial, ac yn ei dynnu yr oedd dau alarch gwyn, a gosododd Prydferth Fronwen i eistedd yn y cerbyd ac eisteddodd hithau wrth ei hochr. Yna lledodd y ddau alarch eu hadenydd claer, ac ehedasant i fyny, i fyny, o olwg Gruffydd, a’r cerbyd yn eu dilyn. A thra yr oedd yn gwylio gwenai ef o hyd, er fod y briw oedd o dan ei fron yn gwaedu yn araf, a’r boen yn gwelwi ei wefusau, a’r chwys oer yn rhedeg i lawr ei dalcen.

V. GWOBR Y DEWR.

Wedi i ddrws y neuadd gau, daeth gweision y swynwr i ymafaelyd yn Grufiydd i’w gludo i’r gell. Ond, pan ddarfu iddynt gyffwrdd âg ef, aethant yn ddiymadferth, a disgynnodd cwsg trwm dros holl drigolion y plas a thros y swynwr hefyd. A safodd Prydferth gerllaw i Ruffydd, ac meddai mewn lais tyner a charedig,—

“Mae dy ofidiau ar ben, yr wyf wedi dy brofi i’r eithaf, a gwelaf dy fod yn caru Bronwen yn fwy na thi dy hun. Yr wyf am dy ddanfon gartref yn awr, a chei fyned yr un modd ag yr aeth Bronwen. Tyred.”

A chydiodd Prydferth yn ei law, ac aeth ag ef allan at y cerbyd grisial, lledodd yr elyrch eu hadenydd, a theimlai Gruffydd y cerbyd yn esgyn esgyn i fyny nes oeddynt ymhell uwchben y plas, ac yn ehedeg yn gyflym uwch y gwastadedd a'r goedwig. Ni safodd yr elyrch nes oeddynt yn disgyn gyferbyn a'r bwthyn. Yr oedd yn fin nos, ac yr oedd goleu tân yn disgleirio drwy y ffenestri. Cyn i Brydferth ymadael