Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

âg ef dywedodd wrth Ruffydd,—“Am dy wroldeb a’th serch at Fronwen yr wyf am rhoddi gwobr iti. Beth ydyw y peth yr wyt yn ddymuno fwyaf yn y byd?”

Ni phetrusodd Gruffydd am eiliad cyn yr atebodd,—

“Cael serch fy mrodyr a Bronwen. Mae arnaf eisieu i Fronwen fy ngharu fel y mae hi’n caru Gwilym a Robert a Dafydd,”

“Edrych drwy y ffenestr yma,” meddai Prydferth, “a gwrandaw.”

Edrychodd Gruffydd drwy un o’r ffenestri isel, a gwelai y tri brawd yn eistedd o gylch y tân yn edrych yn drist ryfeddol, a Bronwen yn eu canol, a’r dagrau yn rhedeg i lawr ei gwyneb. A chlywai hi yn dweyd,—“O na fuasai Gruffydd gyda ni. Ond mae ef yn y gell dywell ym mhlas y swynwr; ac er mwyn i mi ddyfod oddiyno y mae ef yno, meddai Prydferth wrthyf.”

“Te,” meddai Gwilym, “yr oedd ef yn fwy dewr na ni. Ac yr wyf yn edifarhau am fy mod wedi ei ddirmygu gymaint pan oedd gyda ni.”

“A ninnau hefyd,” meddai y ddau arall.

Ar hyn diflannodd Prydferth o olwg Gruffydd, ac agorodd yntau ddrws y bwthyn. Ac ni fu mwy o lawenydd yn y bwthyn hwnnw hyd yn oed pan ddaeth Bronwen yn ol. Ac yr oedd heddwch a chariad yn teyrnasu yno.

Pan fyddai y brodyr yn myned allan i hela aent a Gruffydd i’w canlyn; ac ni fu iddynt ef ddirmygu byth am ei fod yn eiddil ei gorff ac yn dywyll ei bryd, oherwydd yr oeddynt yn cofio am y Goedwig Ddu, ac mor ddewr yr oedd Gryffydd wedi ymddwyn, ac mai iddo ef yr oeddynt yn ddyledus am ddychweliad Bronwen i wneyd eu bwthyn yn gysurus fel cynt.