Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac yn ei gwallt sidanaidd. Ond gwyn a syml fyddai ei gown, a gwisgai rosyn yn ei gwallt fel addurn.

Yr oedd wedi bod yn gwisgo fel ei chwiorydd; ond ryw ddiwrnod yr oedd yn cerdded ar hyd yr heol pan ddaeth i'w chyfarfod blentyn bychan troednoeth, a’i gorff bychan i’w weled drwy y tyllau yn ei ddillad carpiog. Yr oedd yn wylo yn chwerw, a gofynnodd Gwen iddo beth oedd yn ei boeni.

“Isio bwyd sy arna i” oedd yr atebiad, a pharhai i wylo.

Safodd Gwen am ennyd yn syllu ar ben y bachgen carpiog, ac yna trodd ei llygaid ar ei gwisg drudfawr ac ar y gemau oedd yn disgleirio ar ei dwylaw. Wedi sefyll yn synfyfyrio fel hyn am ychydig, cymerodd afael yn llaw y plentyn, ac meddai yn dyner,—

“Dewch hefo fi gartref.”

Wedi cyrraedd y ty rhoddodd fwyd a dillad iddo, ac nid efe oedd y diweddaf iddi gynorthwyo yn y fath fodd; ac er mwyn gallu gwneyd hynny, gwerthodd ei gemau bob un, ac ni phrynnodd ychwaneg o ddillad gwychion.

Yr oedd gardd brydferth yn ymestyn tu ol i dŷ ei thad, er mai yng nghanol y dref yr oedd yn sefyll, a dyna hoff fan Gwen. Yr oedd yn caru y blodau, y coed, y dail, yn caru pob blewyn gwyrdd a dyfai o’r ddaear. Ac yr oedd yn llawenychu yn y wennol fyddai yn nythu dan y tô, ac yn y frongoch oedd a’i nyth yn y goeden afalau; a chan ei bod yn caru y blodau gymaint, treuliai lawer awr yn eu gwylio ac yn eu meithrin, oherwydd nid oes diofalwch mewn cariad, a chludai hwynt yn ei dwylaw i lonni y rhai fyddai yn glaf a diobaith, ac yn byw mewn tlodi ac amhrydferthwch. A dyma y bobl a