Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

daioni, ond am fod y llecyn neu'r man y cawsent hwy wedi diflannu o'u cof ar ol cyrraedd eu cartrefì.

II. YN Y DYFFRYN TYWYLL.

Pan glywodd y ddwy chwaer Cathrin ac Elin yr hanes yma, penderfynasant ar unwaith fynd i geisio y blodau rhyfedd drudfawr hyn, a chychwynasant un bore gyda'u gilydd, yn fwy calonnog nag y gwelwyd hwy ers amser, gan eu bod yn tybio yn sicr y caent y blodau, ac nid oeddynt am ddychwelyd hebddynt. Buasai Gwen hefyd yn hoffi myned i'w ceisio, achos yr oedd yn gweled fod ar ei mam angen am ymborth gwell nag oedd yn gael yn awr.

Yr oedd Gwen yn gweithio aml i ddiwrnod ar y ffermydd wrth ymyl, yn teneuo y rwdins a rhyw oruchwylion eraill fyddent yn arfer roddi i ferched a bechgyn, ond ychydig allai ennill yn y modd yma, a gwariai yr ychydig arian am ryw ddanteithfwyd i'w mam, ond yn awr ni allai wneyd cymaint a hyn, oherwydd, gan bod ei dwy chwaer yn myned oddicartref, ni allai adael ei mam, yr hon oedd yn dal yn glaf am gyhyd o amser. Ceisiodd gan un ohonynt aros, ond ni wnaent; dywedent y byddent yn ol yn fuan gyda'r blodau, ac yna y cawsai eu mam ddigonedd o bob peth at wella.

Ar ol ymadawiad y ddwy chwaer, gwaethygodd y fam gymaint fel y gwelodd Gwen bod raid iddi gael meddyg i'w gweled ar unwaith. Yn y nos y daeth i deimlo hyn. Nid oedd wedi myned i'w gwely, eithr gwyliai wrth ochr ei mam, ac oddeutu deuddeg o'r gloch yr oedd wedi mynd mor wael fel yr ofnai yr eneth, os na chaffai gynorthwy meddyg rhag blaen, na byddai iddi weled toriad diwrnod arall, a phenderfynodd fyned i'w gyrchu yno ar unwaith.