Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhedodd i'r ty nesaf, a chafodd gan y wraig ddod i aros gyda'i mam tra yr elai ar ei neges.

Trigai y meddyg mewn tref oddeutu tair milltir o'r pentref,—tair milltir wrth fyned ar hyd y ffordd fawr, ond yr oedd ffordd arall agosach o gryn filltir a hanner. Arweiniai hon i lawr gallt serth, a thrwy nant gul, oedd fel agen rhwng dau fur o graig. Ni fyddai neb yn cymeryd y ffordd hon byd yn oed yn y dydd, gan y dywedid fod ysbrydion gwynebau dychrynllyd i'w gweled yno, ac y gellid clywed eu swn wrth wrando ar ben un o'r ddwy graig. Cofiai Gwen am bob un o'r hanesion hyn, am bob desgrifiad erchyll o'r ysbrydion, ond ni phetrusai pa ffordd i'w chymeryd; buasai cael y meddyg hanner awr yn gynt yn beth mawr yn y cyflwr yr oedd ei mam ynddo. Yr oedd yn dywyll pan gychwynnodd o'r tŷ; ond pan gyrhaeddodd waelod yr allt oedd yn arwain i'r nant gul, cododd y lleuad dros ysgwydd un o'r ddwy graig, a disgleiriodd i mewn i'r agen dywyll. Cychwynnodd Gwen redeg ar hyd y llwybr mwsoglyd, ac yr oedd ei chalon yn curo yn gyflym gan ofn yr ysbrydion. Pan yng nghanol y nant, gwelai o'i blaen, yn gorchuddio y llwybr, wely o flodau gwynion yn disgleirio yng ngoleu gwyn y lloer. Yn ei brys mawr aeth Gwen ychydig gamrau o'i ffordd rhag sathru y blodau oedd mor brydferth yn gwenu arni, yng nghanol y lle anedwydd hwnnw, ac wrth fyned heibio gwyrodd i lawr a thynnodd ddyrnaid, ond heb aros munud. gan feddwl y buasent yn diddanu ei mam â'u gwynder pur. Ni sylwodd Gwen fod pob blodeuyn wedi cau wrth iddi eu tynnu, ond fel y prysurai yn ei blaen, synnai fod cymaint o bwysau ynddynt, a gwyrodd ei llygaid i edrych arnynt, ond yr oedd y lleuad wedi myned tu ol i'r