Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

graig arall erbyn hyn, ac ni allai weled dim o'i blaen.

Cyrhaeddodd dŷ y meddyg yn ddiogel, ac heb gymeryd ond ychydig iawn o amser i wneyd hynny, ac wedi aros yno ychydig funudau, cafodd ei chludo ganddo yn ei gerbyd yn ol i dŷ ei mam.

III. DEDWYDDWCH.

Pan aeth Gwen i'r tŷ, rhoddodd y dyrnaid blodau ar fwrdd bychan o'r neìlldu heb edrych arnynt, ac aeth a'r meddyg i fyny y grisiau i ystafell ei mam. O dan ei driniaeth fedrus lliniarodd poenau y wraig glaf, ac erbyn y boreu yr oedd wedi syrthio i gwsg tawel; a phan ddeffrodd yn hwyr y dydd canlynol, yr oedd ei chlefyd wedi troi, a dywedodd y meddyg y byddai iddi wella yn fuan. Wrth drefnu yr ystafell ychydig ddyddiau ar ol hyn, cofiodd Gwen am y blodau hynny oedd wedi dynnu yn y nant, ac aeth at y bwrdd bychan i'w ceisio gan ofidio ei bod wedi anghofio eu rhoddi mewn dwfr, ac ofnai y byddent wedi gwywo cymaint na fuasai modd eu hadferyd. Ond beth oedd ei syndod pan y gwelodd hwynt yn disgleirio o'i blaen mor brydferth ag erioed; ond wrth iddi eu codi yn ei llaw, disgynnodd pob dalen oddiwrth eu gilydd, a syrthiasant yn gawod dew ar y bwrdd gyda swn rhyfedd, a daliai Gwen swpyn o goesau sychion yn ei llaw. Cyfeiriodd ei llygaid oddiwrth y rhai hyn at y dalennau oedd wedi weled yn disgyn oddi arnynt, ac er mwy o syndod fyth iddi gwelai bentyrrau o arian, a deallodd mai y blodau arian oedd wedi dynnu mor ddifater. Ni arhosodd i'w cyfrif, ond rhedodd i fyny i ddweyd