Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrth ei mam, a'u dangos iddi. Ond pan ofynnodd honno iddi ym mha le yr oedd wedi eu cael ni allai ddweyd dim ond mai o'r blodau arian y daethant.

Ni fu ei mam yn hir heb wella ar ol hyn, gan ei bod yn gallu prynnu bwydydd nerthol a phob anghenrhaid â'r arian; ac yna aeth hi a Gwen yn ol i'w hen dŷ yn y dref, ac unwaith eto cafodd Gwen rodio drwy lwybrau yr ardd a gwrando ar y frongoch oedd a'i nyth yn y goeden afalau, a meddyliai fod y blodau yno yn brydferthach na'r blodau oedd yn y wlad, an chân y robin yn felusach na'r un glywodd wrth ymyl y bwthyn. Ond ni fu iddynt adael y pentref heb aros peth amser gan ddisgwyl y deuai Cathrin ac Elin yn ol. Ni ddaethant, fodd bynnag, y pryd hynny; a gadawodd y ddwy y lle gan erfyn ar wraig y tŷ nesaf ddweyd wrthynt lle yr oedd eu mam a'u chwaer wedi myned os byth y deuent at ddrws y bwthyn.

Aeth yr amser heibio yn ddedwydd i Gwen a'i mam yn yr hen gartref. Gwyliai Gwen ei blodau yn yr ardd, ac hefyd yr oedd ganddi ei hen ddedwyddwch o allu cynorthwyo eraill.

Un boreu yr oedd yn sefyll wrth borth yr ardd, a gwelodd ddwy ddynes a'u pwys âr y clawdd wrth ymyl. Yr oedd eu gwedd yn hagr, a'u gwisg yn garpiog. Yr oedd yr esgidiau am eu traed yn dyllau, ac nid oedd ganddynt unrhyw orchudd ar eu pennau rhag gwres yr haul neu erwinder y gwlaw. Agorodd Gwen y porth, a gofynnodd iddynt ddod i mewn gan feddwl eu cynorthwyo yn eu hangen; ond beth oedd ei syndod pan aeth i'w hymyl, ac y clywodd eu llais, i ganfod mai ei chwiorydd Cathrin ac Elin oeddynt, a chymaint a'i syndod oedd