dim lle i feddwl bod dim damwain wedi digwydd. Yr oedd yn amlwg fod rhywun wedi rhoi'r car i sefyll yn y fan honno, ar glwt glas yn ymyl y llidiart. Nid oedd dim yn y car i ddangos beth oedd neges ei berchenog ychwaith. Wrth gwrs, yr oedd ei drwydded a phopeth felly mewn trefn. Yr unig beth sydd yn ddirgelwch ydyw paham na ddaeth Mr. Gwynn yn ôl at ei gar."
"Ie," meddai Aubrey, yn fyfyriol, a hefyd paham y daeth Mr. Gwynn i Langam o gwbl. Hyd y gŵyr Mrs. Gwynn, 'doedd ganddo ddim cysylltiadau y ffordd hyn, a 'does dim yn yr offis 'chwaith i ddangos bod ganddo fusnes yn yr ardal." Q "Wel ie," meddai'r Arolygydd, "'roeddan' ninnau yn deall mai dyn diarth oedd o y ffordd yma. 'Does dim cownt i fod o wedi bod y ffordd hyn ar ei wyliau, a oes, Sarjant Williams?"
"'Does neb yn ardal Llangam yn cofio nac yn gwybod dim amdano," meddai'r Sarjant, "a hyd yn hyn 'ryda' ni wedi methu cael hyd i neb a'i gwelodd y dydd o'r blaen."
"'Roeddwn i'n meddwl braidd," meddai Aubrey. "Y mae yna ryw ddirgelwch. Yr oeddwn yn gobeithio eich bod chwi wedi cael rhyw drywydd arno bellach; y mae'n rhyfedd fod y dyn wedi medru diflannu cyn llwyred. Wrth gwrs, pe na buasai am y car, gallem feddwl bod arno eisiau diflannu, ond prin y. buasai'n gadael car sydd cystal â newydd ar ochr y ffordd. Ac y mae yna un peth arall sydd yn peri bod Mrs. Gwynn yn anesmwyth."
"Be' ydi hwnnw?" gofynnodd yr Arolygydd Jones. "Y ffaith fod Gwynn yn amlwg yn poeni ynghylch rhywbeth ers rhai wythnosau," meddai Aubrey. "Dywed ei staff yn yr offis nad oedd dim yn y busnes yn galw am iddo boeni, ac nid ymddengys fod,