Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceulan y Llyn Du.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD III

"Acw?" meddai Sarjant Williams. "Acw, ddydd Mawrth?"

Edrychodd Morley yn od braidd ar y plismon, fel pe'n methu gwybod beth oedd arno.

"Ie," meddai. Doedd dim byd yn rhyfedd yn hynny, tybed? 'Roedd o'n ceisio cymryd gêm Penlliw gennyf am y tymor nesaf, ar ei ran ei hun neu ar ran rhyw gwsmeriaid, nid wyf yn sicr p'run. Ond beth amdano? Paham yr ydych chwi'n cymryd diddordeb ynddo? Oeddach chi wedi trefnu i'w gyfarfod yma heddiw? 'Roedd o'n dweud feallai y deuai rhywun i weled y lle."

Dywedodd Morley hyn oll yn hollol naturiol. Gwyliai Aubrey ef yn ofalus ac ni allai weled arwydd o anesmwythyd nac anghysur. Yn ôl pob golwg yr oedd y dyn yn dweud y gwir.

"Na," meddai Aubrey, "nid wedi trefnu i gyfarfod Mr. Gwynn yr ydym. Y .gwir ydyw ei fod wedi diflannu. Welodd neb mohono er bore dydd Mawrth, pan adawodd ei offis heb ddweud wrth neb i b'le'r oedd yn myned. Cafwyd hyd i'w gar yn y fan yma."

"Wedi gadael ei gar?" meddai Morley. "Y mae'n bosibl felly na . . ." ac yna ychwanegodd, fel pe buasai syniad brawychus wedi dyfod iddo, "ddyn bach! y mae'n rhaid na ddaeth o ddim yn ei ôl ato fo." "Dyna oedda' ninnau'n feddwl," meddai Aubrey. "Pryd y gadawodd o chwi, Mr. Morley?"

Am y tro cyntaf edrychodd Morley yn anghysurus, ond yr oedd yn amlwg ar ei eiriau nesaf beth oedd yn ei boeni. "