"Hwn" oedd twll sgwar yn y ddaear tua chanol y clwt clir.
"Mi fuaswn yn meddwl," meddai Aubrey, "fod rhywun wedi rhoi polyn sgwâr yna rhywdro. Oes yma ffens neu rywbeth felly wedi bod yn ddiweddar?"
"Dim byd o'r fath," meddai'r hen gipar. "'Does yma'r un polyn sgwâr o fewn milltir i'r lle yma—ond un," ac edrychodd ar Aubrey a'r Sarjant gan ddisgwyl, yr oedd yn amlwg, iddynt ei holi ymhellach.
"A lle y mae hwnnw, Wmffra Jones?" meddai'r. Sarjant.
"Dacw fo," oedd yr ateb, a chyfeiriodd Wmffra Jones at y polyn a welid yn y pellter, "y sein sydd yn dangos y llwybr ar draws y traeth. At hwnna y bydd pawb yn 'nelu wrth groesi, a 'tasech chi'n i symud o, yn enwedig yn y llwyd olau, mi fuasech yn camarwain rhai mwy cynefin â'r lle yma na'r dyn yna 'rydach chi'n chwilio amdano fo."
Edrychodd Aubrey a'r Sarjant ar ei gilydd. Yr oedd rhywbeth yn awgrym yr hen ŵr.
"Mi triwn ni o cyn hir," meddai Aubrey.
"Well i chi wneud hynny 'rŵan," meddai Wmffra Jones, neu hwyrach na fydd y twll ddim yma pan ddowch chi yma nesa'. Mae Mistar Morley wedi'n gweld ni, ac roedd o yma pnawn echdoe hefyd, gwaded a wado," ychwanegai'r hen gipar dan ei anadl fel yr oedd ei feistr yn brasgamu tuag atynt ar draws y traeth.
"A gawsoch chi hyd i rywbeth?" gofynnodd Morley. "Tybed," meddai Aubrey wrtho ei hun, "ei fod yn ofni i ni gael hyd i rywbeth yn y fan yma?"
Tybiai fod ias o anesmwythyd yn llais Morley pan ofynnodd y cwestiwn, ond meddyliodd wedyn nad oedd hynny ond peth digon naturiol o dan yr amgylchiadau.