Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceulan y Llyn Du.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"A oeddych yn tybio bod rhyw reswm dros iddo wneud hynny?" meddai Aubrey. "Yr oeddych chwi'n ei adnabod, ond 'welais i erioed mohono."

"Ychydig iawn o gydnabyddiaeth a oedd rhyngof finnau a fo," oedd yr ateb, "dim ond cydnabyddiaeth busnes, fel yr eglurais. Ond meddwl yr oeddwn y buasai rhywun wedi dod o hyd iddo bellach pe buasai rhywbeth wedi digwydd iddo. Fe glywsom am ddynion yn diflannu o'u gwirfodd."

"Do," meddai Aubrey, "ac y mae'n bosibl, wrth gwrs, mai dyna wnaeth Gwynn. Ond, os felly, y mae'n beth od braidd iddo adael ei gar fel y gwnaeth, ac, yn wir, ei fod wedi dewis lle fel hyn o gwbl i wneud hynny. Hylo, dacw'r Sarjant wedi cael hyd i rywbeth."

Draw, ar fin y traeth ac yn ymyl y banciau tywod yr oedd Sarjant Williams ac un o ddynion Penlliw yn craffu ar rywbeth. Cododd y Sarjant ei fraich ac amneidiodd ar Aubrey. Prysurodd yntau ato trwy'r brwyn ac ar draws y clytiau tywod.

Beth sy'n bod, Sarjant?" meddai Aubrey.

"Dim ond hyn, Mr. Aubrey," oedd yr ateb, ac estynnodd y swyddog gadach poced gwyn i'r detectif. Ar un gongl yr oedd y llythrennau "J.G." "Mi fu John Gwynn yn y fan yma, 'ddyliwn."

"Wel," meddai Aubrey, "y mae'n bosibl mai ei gadach poced ef ydyw hwn, ond y mae'n ychydig iawn o beth i adeiladu dim arno. A welsoch chwi ddim byd arall dim ôl troed na dim felly?"

"Dim byd," meddai'r Sarjant. 'Does yma ddim arwydd arall yn unman."

Safodd Aubrey yn synfyfyriol am ysbaid. O'r diwedd dywedodd, "Y mae'n debyg mai dyma'r cyfan a allwn ei wneud yn y fan yma yn awr. Diolch i chi a'ch pobl, Mr. Morley, am eich help. Af yn ôl i Drewylan yn