awr, a deuaf ar eich gofyn eto os byddaf yn gweled hynny'n angenrheidiol. Os na ddaw goleuni yn fuan ar y dirgelwch hwyrach y caniatewch i mi alw ym Mhenlliw i gael sgwrs."
"Bydd yn dda gennyf eich gweled, Mr. Aubrey," meddai Morley, "er, fel y dywedais, ychydig iawn a wn i am Gwynn, ac nid oes gennyf ddim i'w ychwanegu at yr hyn a ddywedais wrthych eisoes."
"Debyg iawn," meddai Aubrey, "ond y mae'n fantais weithiau bod yn y fan a'r lle."
Ni cheisiodd egluro'i eiriau, ond sylwodd fod Morley yn edrych braidd yn amheus arno pan ysgydwodd law ag ef a chychwyn, gyda Sarjant Williams, ar draws y morfa tua'r ffordd fawr.
"Mae ar y pry' yna ofn i rywbeth ddwad i'r golwg," meddai'r Sarjant, fel y cydgerddent at eu car. "Welsoch chi fel y rhuthrodd o yr hen gipar yna am ddangos y twll i ni? Mae yna rhyw ddrwg yn y caws, yn siŵr i chi."
"'Rydw' i braidd o'r un farn â chwi, Sarjant," meddai Aubrey, "yn enwedig ar ôl gweled Elston."
"Y gwas hwnnw a golwg gibog arno fo?"
"Ie. 'Rydw' i wedi gweld Elston yn rhywle o'r blaen, ac yn ddigon siŵr nad Elston oedd ei enw fo'r pryd hynny. Dyna'r paham y dywedais i am fynd yn ôl i Drewylan; y mae arnaf eisiau gwneud rhai holiadau. Nid gwas oedd Elston y tro diwethaf y gwelais i o."