fel braw i'w lygaid. "Y llyn yn wâg?" meddai. "Ond y chi a aeth â'r corff oddi yno y noson honno, Frank?
"Peidiwch â chyboli," meddai Morley. "Sut y gallwn i symud y corff fy hun? Ac ni welais i'r un corff, 'chwaith. Pan euthum i symud y post arwydd yn ei ôl y cwbl a glywais oedd gwaedd Gwynn ar fin y llyn a'i sŵn yn disgyn i'r dŵr. 'Doedd dim golwg amdano fo pan euthum at y llyn, ond cymerais yn ganiataol mai wedi mynd i'r gwaelod yr oedd. Credwch fi, bu bron i mi lewygu pan gawsom nad oedd y corff yno heddiw."
"Be' sydd wedi digwydd, yntau?" meddai Elston. A gafodd rhywun arall hyd iddo? Bwnglerwaith a wnaethoch chi, wedi'r cwbl. Buasai'n well i chi fod wedi gadael i mi roi diwedd arno pan fygythiodd o ollwng y gath o'r cwd, fel yr oedd arna' i eisiau gwneud."
"A chael y plismyn yma drannoeth?" meddai Morley yn oeraidd. "Cadwch eich pen, Felix. 'Does ganddyn' hw' ddim praw yn y byd fod neb wedi'i ladd 'rŵan—dim ond fod John Gwynn, y dyn busnes parchus o Dre'r Porth, ar goll."
"Ar goll y buasai o pe buaswn i wedi cael fy ffordd echdoe hefyd," meddai Elston, gyda hanner-gwên greulon. "Ond 'rwan dyna rywun wedi cael hyd i'r corff ac yn dal y peth uwch ein pennau ni!
"'Rwyt ti'n colli dy afael, Felix," meddai Morley, ac yn colli dy ben. Hyd yn oed pe buasai rhywun wedi cael hyd i gorff Gwynn yn y llyn, pa le fuasai 'gan neb i feddwl bod rhywbeth heblaw damwain wedi digwydd? A phwy yn y byd a fuasai'n symud y corff ac yn ei guddio?
"'Dwn i ddim," meddai Elston, "ond ar ôl y peth