Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceulan y Llyn Du.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddeudodd Gwynn pan oedd o yma, be' wyddoch chi nad oes yna rhywun arall yr un fath ag yntau wedi penderfynu gwasgu arnom? Ac mi fydd hwnnw, pwy bynnag ydi o, wrth y drws un o'r dyddiau nesaf yma ac yn dweud beth fydd pris ei ddistawrwydd."

"Ai dyna sydd yn eich poeni chi, Felix?" meddai Morley, gan sefyll ac edrych ar ei gydymaith.

"Tybed nad ydi o'n ddigon i boeni dyn?" meddai Elston.

"Y mae peth gwaeth o lawer yn fy mhoeni i," meddai Morley. "Does arna' i ddim llawer o ofn gweled neb diarth wrth y drws yn gofyn am bris ei ddistawrwydd, mwy nag sydd arna' i lawer o ofn y 'tec busneslyd yna na'r plismyn pendew."

Be' sydd arnoch chi ofn, yntau?"

"Ofn yr hyn a wna John Gwynn yn awr," oedd yr ateb.

"John Gwynn?" meddai Elston. "John Gwynn? Ond y mae o . . . .

"Nac ydi, Felix," oedd ateb Morley, "y mae cyn sicred â dim, bron, nad yw John Gwynn wedi boddi. 'Roeddwn i, fel chwithau, wedi meddwl nad oedd fodd iddo ddianc o'r Llyn Du, ond y mae'n rhaid ei fod wedi gwneud. Pa eglurhad arall sydd yn bosibl ar y ffaith nad yw ei gorff yn y llyn? A'r peth yr wyf yn ei ofyn i mi fy hun yn awr ydyw pa bryd y mae John Gwynn yn bwriadu ymweled â ni eto? Y mae'n siŵr o ddwad, ac fe allwch chi a minnau, Felix, fod yn bur sicr na bydd yn teimlo'n gyfeillgar. O'm rhan fy hun, bwriadaf fod yn bur ofalus rhag mynd allan wedi nos yn y lle anial yma nes cael sicrwydd pa le y mae o."

Cyrhaeddasant lidiart y parc erbyn hyn, ac yr oedd y tŷ yn y golwg. Hen dŷ hir, isel, oedd Penlliw, hen blasty bychan, Cymreig, a fu'n gartref i uchelwyr o