Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceulan y Llyn Du.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gymry gynt. Yr oedd parc, a fu unwaith yn drefnus, o'i gwmpas; yr oedd y coed oll yn plygu rhag grym gwynt y gorllewin yn y fan amlwg honno ac erbyn hyn yr oedd golwg wyllt a didrefn ar y rhannau agored. Lle wedi bod yn olygus ac yn drefnus ydoedd; heddiw, er na ellid dywedyd bod "mieri lle bu mawredd ", eto, gwael oedd ei wedd wrth yr hyn a fu pan oedd yr hen deulu'n byw yno. Yr oedd yn amlwg nad oedd Morley yn gwneud fawr mwy na byw yn y tŷ, ac yr oedd eithaf golwg ar amgylchoedd y tŷ ei hun. Yr oedd yr ardd o'i flaen yn weddol daclus a'r tŷ mewn eithaf cyflwr, ond cyn gynted ag yr elid gan' llath oddi wrth y tŷ i gyffiniau'r coed, gwelid bod yr anialwch yn cael ei ffordd. Nid oedd neb wedi tocio twmpathau'r rhododendron ers llawer dydd, ac yr oeddynt hwythau wedi tyfu ar led yn llwyni tewfrig. Cwympasai rhai o'r coed pîn yn ystod storm rhyw aeaf, ac ni thrafferthodd neb i'w symud; gadawyd hwy ar eu lled-orwedd ymhlith y coed byw, yn pwyso arnynt ac yn peri eu bod hwythau hefyd yn gwyro ac yn barod i gwympo yn eu tro pan ddeuai storm arall i guro arnynt. Lle wedi ei esgeuluso ydoedd, lle na chymerai neb falchter ynddo; nid oedd angen neb craff iawn i ddywedyd mai pobl wedi arfer byw mewn tref a oedd yn byw ym Mhenlliw yn awr, pobl heb feddu'r traddodiad gwlad a fuasai'n codi cywilydd arnynt o weled lle mor afler. Nid oedd yno arwydd o falchter y gwladwr yn ei amgylchoedd.

Cerddodd Morley ac Elston yn araf at y tŷ; yr oedd yn amlwg fod geiriau Morley wedi effeithio ar ei gydymaith, ac yr oedd mewn myfyrdod dwfn, a hwnnw i bob golwg yn fyfyrdod digon annifyr. Cyn cyrraedd at y drws trodd at Morley.

"Does dim ond un peth i'w wneud," meddai, "a hynny ydyw'r peth y dylasech fod wedi gadael i mi ei