Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceulan y Llyn Du.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i ddelio â pheth felly, Felix. Cofiwch fod eich pen chwithau mewn cryn enbydrwydd hefyd. Yr oedd Aubrey yn edrych yn bur graff arnoch gynnau. 'Synnwn i ddim nad oedd o'n drwgdybio rhywbeth."

"Tybed?" meddai Elston, yn anesmwyth. "Sut y gallai wybod dim amdanaf?

"Bu'n ddigon cyfyng arnoch ar ôl llofruddiaeth. Black," meddai Morley. "Cofiwch fel y bu'r plismyn yn eich holi yr adeg honno—a chofiwch hefyd na chafwyd byth hyd i lofrudd y plismon. Dywedir na bydd y plismyn byth yn gollwng eu gafael ar achos felly, a buasai'n beth anffodus iawn pe buasai Aubrey yn digwydd eich adnabod."

Gwenodd Morley yn sarhaus wrth weled fel yr oedd ei gydymaith yn anesmwytho, ac yna ychwanegodd:

"Ond na hitiwch am hynny'n awr. Mi wnaf i o'r gorau ag Aubrey eto. Y peth sydd ar fy meddwl i yn awr ydyw symudiad nesaf John Gwynn. Y mae o'n siŵr o symud, ac y mae'n rhaid i ni ddarparu ar gyfer hynny."

"Sut?" gofynnai Elston yn swrth.

"Gwrandewch," meddai Morley, a siaradodd yn gyflym ac yn isel am rai munudau. Ar y dechrau edrychodd Elston arno mewn syndod, ond yn raddol daeth gwên i'w wyneb, ac o'r diwedd trawodd ei law ar ochr ei glun gyda rheg.

"O'r gorau," meddai. "Un garw ydach chi, hefyd. Ond fe fydd yn well i Aubrey ac i Gwynn edrych ati hi."

Pe buasai rhyw ddamwain anffodus yn digwydd i'r ddau," meddai Morley yn sychlyd, buasai'n beth gofidus iawn."

"Gobeithio'r gorau," meddai Elston, ac ar hynny cerddodd y ddau i'r tŷ.