celwydd. Yr oedd yn rhy daer, yn rhy bendant, yn rhy barod i ddangos y tŷ. Amheuai'r Sarjant mai adrodd gwers wedi ei dysgu yr oedd, a buasai'n hoffi gwybod gan bwy y'i dysgodd. Ond hyd yr oedd yr hyn a welodd yn mynd, nid oedd argoel fod Gwynn a Siôn y Bodiau yn adnabod ei gilydd o gwbl.
"Mi gymra' fy llw yr un pryd," meddai'r Sarjant, "fod Siôn yn gwybod rhywbeth. 'Rydw' i'n siŵr i fod o'n fy nisgwyl i ac yn barod hefo'i stori."
"Mae'n debyg iawn," meddai Aubrey, "ac mi dâl i ni beidio â cholli golwg ar Siôn. Ond fy musnes cyntaf i yn awr ydyw mynd â'r llun yma i Benlliw a chael eglurhad Morley arno. Ac y mae un peth arall ar fy meddwl, hefyd."
"Be' 'di hwnnw?" gofynnai'r Arolygydd. "Elston," meddai Aubrey. "Dywedais wrth Sarjant ddoe fy mod yn sicr fy mod wedi ei weled ef yn rhywle o'r blaen, a pho fwyaf a feddyliaf am y peth sicraf yn y byd ydwyf. Ond yn fy myw y gallaf alw i gof pa le nac o dan ba amgylchiadau. Y ffordd orau, y mae'n debyg, fydd i mi fynd yno a chael golwg arall arno. Hwyrach y cofiaf felly."
Ac felly y trefnwyd. Aeth Aubrey a'r Sarjant unwaith eto ar hyd y ffordd ac i lawr y llwybr ar draws y morfa ac ar hyd y traeth. Nid oedd neb yn y golwg, ond yr oedd Aubrey, wedi hen arfer â lleoedd tebyg, yn sicr yn ei feddwl ei hun fod rhywun neu rywrai yn eu gweled. Dywedodd hynny wrth y Sarjant.
"Peidiwch ag edrych 'rwan," meddai, "ond cadwch eich llygaid yn agored. Y mae rhywbeth yn dweud wrthyf fod rhywun yn ein gwylio."
Cerddasant hyd at lidiart mawr y parc ac ar hyd y fynedfa at y tŷ, ac eto heb weled neb. Penderfynodd y Sarjant yn ei feddwl ei hun fod Mr. Aubrey wedi