"Be' sydd yn eich meddwl?" gofynnai, mewn llais, a wnaeth i Sarjant Williams gymryd cam yn nes ato.
"Dim byd, Elston," meddai Morley yn sydyn. "Beth sydd ar eich pen chwi? Holi am Mr. Gwynn y mae'r plismyn yma—neu hwyrach y dylaswn ddweud y ditectif enwog yma a'r Sarjant. Prin, hwyrach, yr hoffai Mr. Aubrey gael ei alw'n 'blismon."
"Waeth gennyf beth y gelwir fi," meddai Aubrey, gan wenu. "P'run bynnag, nid wyf yn meddwl bod gennyf ychwaneg i'w ofyn i Mr. . . . Elston."
Petrusodd cyn dweud yr enw, a gwenodd wrth weled anesmwythyd Elston.
"P'nawn da, Mr. Morley, cawn eich gweled eto cyn bo hir."
Er syndod i'r Sarjant trodd Aubrey ar ei sawdl, a chan amneidio ar Williams i'w ganlyn cerddodd i gyfeiriad llidiart y parc.
"Wel, syr," meddai Sarjant Williams, wedi cyrraedd y ffordd gul at y traeth, "beth oedd ystyr yr ergyd yna? Mi gymerasoch 'i wynt o pan soniasoch chi am Smith."
"Smith ydyw ei enw, Sarjant," meddai Aubrey. "Neu dyna oedd ei enw, beth bynnag, pan anfonwyd ef i garchar am ddwyn gemau ddeng mlynedd yn ôl. Ac yr oedd yn ffodus yn cael dianc heb ei grogi, canys lladdwyd plismon yn yr helynt hwnnw. 'Does gen' i ddim amheuaeth nad oedd Smith—neu Elston—yn euog, ond 'doedd yno ddim digon o brawf. Y mae gennych bobol od yn byw yn y wlad dawel yma, Sarjant."