PENNOD VIII
"YN awr be' wnewch chi?" meddai Elston yn ffyrnig, wedi i Aubrey a Sarjant Williams ymadael. "Fe welwch i b'le'r ydach chi wedi'n harwain ni gyda'ch clyfrwch a'ch llwfrdra. Pe buasech wedi gadael i mi setlo efo Gwynn pan ddaeth yma gyntaf, fuasai hyn ddim wedi digwydd, a 'rwan dyma'r Aubrey yma ar eich trywydd chi pan oeddych yn Nhre'r Porth ac wedi fy adnabod innau. Y mae'n rhaid i ni gael y cwch heno a chlirio allan cyn yr â pethau'n waeth. 'Does dim eiliad i'w golli."
Cododd llais Elston fel yr âi ymlaen, ac yr oedd bron yn ysgrech pan ddywedodd y geiriau olaf. Ar y dechrau nid oedd Morley fel pe'n gwrando arno o gwbl. Eisteddai â'i en wedi suddo ar ei fynwes, a'i lygaid bron ynghau, fel dyn wedi llwyr ymgolli mewn myfyrdod. Ond pan gododd Elston ei lais agorodd yntau ei lygaid ac edrychodd arno, heb ddywedyd yr un gair. Daeth atal i eiriau cynhyrfus Elston a gostyngodd ei lais; bron na ddywedai sylwedydd ei fod fel pe'n cilio'n ôl rhag ei gydymaith fel pe byddai arno ei ofn. Ac yna distawodd.
"Felix," meddai Morley o'r diwedd, "dywedais o'r blaen am i ti beidio â bod yn ffwl. Y mae ffyliaid cyn berycled â bradwyr, ac nid oes gennyf le i'r naill na'r llall. Hwyrach y dylaswn fod wedi gwneud yn siŵr na ddeuai Gwynn yn ei ôl, ond yr wyf wedi dysgu'r wers. Os bydd yn rhaid, gwnaf yn siŵr na chei di, beth bynnag, ddim cyfle i ddianc. Paid â chamgymeryd. Myfi sydd yn arwain yn y busnes yma."