CEULAN Y LLYN DU
PENNOD I
YR oedd yn nosi. Machludodd yr haul ers tro, ac er bod rhesi o gochni yn aros o hyd yn awyr y gorllewin, yr oedd y gwyll yn ennill tir yn gyflym bellach. Wrth weled hynny prysurodd y dyn a oedd yn cerdded ar hyd y ffordd gul a oedd yn dyfod i lawr at y traeth; gwyddai fod ganddo filltir neu fwy o forfa a thraeth i'w cherdded cyn dyfod i ffordd glir, ac nid oedd yn gyfarwydd â'r morfa nac a'r traeth. Yn wir, golwg ddigon diarffordd a oedd ar y lle. Yr oedd tir Penlliw. yr oedd ef yn ei adael, megis yn darfod yn y fan honno. O'r tu cefn iddo yr oedd y caeau a rhyw awgrym o barc ymhellach yn ôl, er nad oedd y tŷ yn y golwg o'r fan honno. Yr oedd yno ffordd, ffordd gul, y mae'n wir, ond ffordd mewn eithaf cadwraeth, gyda gwrychoedd isel o boptu i gysgodi'r fforddolion rhag angerdd y tywydd yn y lle amlwg hwnnw. Ond yr oedd y ffordd yn darfod ar ymyl y traeth.
O flaen y teithiwr wedyn nid oedd ond anialwch o lastraeth, o frwyn ac o forhesg. Prin yr oedd y llanw uchaf yn cyrraedd i'r rhan honno o'r traeth: yr oedd y lle wedi tyfu'n las ac yr oedd y tywod wedi caledu. Ond nid oedd yno ffordd, er hynny; weithiau y deuai pobl Penlliw y ffordd honno, a phan ddeuent gwyddent hwy am bob modfedd o'r traeth a gallent anelu'n ddiffael ar ei draws tua'r bryniau tywod draw a oedd yn cuddio'r morfa o olwg y teithiwr. Lle unig oedd hwnnw; cuddiai codiad tir Penlliw y môr, ond clywid su parhaus y tonnau o hyd, sŵn trymaidd ddigon