Gwyddai bellach ei fod wedi camfarnu Morley. Gwyddai iddo fod yn ymyl boddi ac y buasai wedi boddi oni buasai fod Siôn yn ymyl, yn cuddio yn y brwyn. Yr oedd holl ffyrnigrwydd twyllwr a dwyllwyd yn ei gynhyrfu, ac nid oedd ganddo ond un meddwl bellach. Teimlai'r automatic a oedd ganddo yn ei boced: gwnaethai Siôn drefn ar hwnnw ar ôl y drochfa yn y Llyn Du, a daeth gwên nid annhebyg i eiddo Morley ei hun i'w wyneb wrth feddwl pa fath olwg a fyddai ar Morley ac Elston pan ddeuai ar eu trywydd.
Ar y cychwyn gobeithiai eu bod hwy'n credu ei fod wedi boddi. Yr oedd yn amhosibl credu hynny ar ôl ymweliad Sarjant Williams â bwthyn Siôn, ond hyderai y caffai hyd i'r ddau cyn i'r plismyn gael gafael ar y gwir. Creadur peryglus oedd John Gwynn y noson honno, yn cwrcwdu yn y drysi ac yn ceisio gweled yn y tywyllwch fel bwystfil gwyllt ar drywydd ei ysglyfaeth.
Ond nid oedd yntau, mwy na'i gydymaith, wedi gweled na chlywed dyn arall yn symud yn ddistaw a chyflym fel drychiolaeth ar eu trywydd hwy. Ni welsant ef yn sleifio heibio i ddrws cefn y bwthyn ac yn llithro i enau'r llwybr cudd, amryw lathenni ar eu holau hwy. Ni wyddent ei fod yn eu dilyn ar draws Y morfa, wedi i'r llwybr ddarfod, na'i fod o fewn tua dau gant o lathenni iddynt pan gyrhaeddasant y traeth. Yr oedd yn anodd iawn eu gweled yn y tywyllwch, ond llwyddodd y sawl a'u dilynai i gael ambell gip arnynt trwy orwedd yn sydyn ar y ddaear a'u gosod hwy felly rhyngddo a'r awyr a oedd beth yn oleuach. Gallai eu clywed yn siarad weithiau, ond yr oeddynt yn bur wyliadwrus ac yr oedd yn amhosibl deall yr un gair. Ond yr oedd yn amlwg eu bod yn cyfeirio at Benlliw.