Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceulan y Llyn Du.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tawedog iawn oedd Siôn a Gwynn ar y daith honno, Siôn am mai tawedog oedd wrth natur, a Gwynn am fod ei feddwl yn llawn o'i gynlluniau. Yr oedd distawrwydd y nos o'u cwmpas. Torrid arno weithiau gan chwibaniad aderyn môr yr aflonyddid arno ganddynt wrth fynd heibio, ac weithiau gan wich rhyw greadur yng ngafaelion creadur ysglyfaethus arall a chryfach nag ef ei hun. Y mae'r nos yn y wlad, ac yn enwedig yn y lleoedd gwylltion, agored, yn llawn o sibrydion ac o seiniau sydyn, brawychus. Gwyddai Siôn hynny, ac ni sylwai arnynt. Ni roes ddim sylw pan chwibanodd gylfinhir yn uchel a lleddf ychydig y tu ôl iddynt, ond anesmwythodd Gwynn.

"Beth oedd yna?" meddai.

"Dim byd ond rhyw hen 'dderyn," meddai ei gydymaith. "Rhaid i chi beidio â gadael i bethau fel yna y'ch dychryn chi ne' 'newch chi ddim byd ohoni hi. Dyna fo eto; mae o wedi meddwl 'i bod hi'n fore, 'ddyliwn i."

Chwibanodd y gylfinhir drachefn, yn uchel ac yn glir, ond erbyn hyn yr oedd y sŵn yn dyfod o'r cyfeiriad arall, o'r traeth a oedd o'u blaen.