Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceulan y Llyn Du.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD IX

WEDI gadael Penlliw dychwelodd Aubrey a'r Sarjant i swyddfa'r heddlu yn Nhrewylan cyn gynted ag y gallent. Yr oedd Aubrey yn gweled ei ffordd yn glir erbyn hynny, ac yr oedd yn symud gyda'r ynni a'r cyflymder a'i nodweddai bob amser wedi iddo benderfynu pa lwybr i'w gymryd. Hyd yn hyn tueddai Sarjant Williams, a fedrai symud yn bur gyflym ei hun, i ryfeddu at ei arafwch a'i bwyll; ofnai ei fod yn cymryd pethau'n rhy dymhoraidd ac yn gadael i gyfle ar ôl cyfle lithro trwy ei ddwylo. Ond ar ôl yr ymweliad â Phenlliw cafodd y Sarjant reswm digonol dros newid ei feddwl. Er cyflymed oedd ef ei hun prin y medrai ddilyn symudiadau Aubrey yn awr; o ran corff a meddwl yr oedd fel dyn newydd, ei enau yn benderfynol a'i lygaid yn fyw a threiddgar.

Ychydig a ddywedodd ar y daith yn ôl i Drewylan, ond wedi cyrraedd y swyddfa a chael gafael ar yr Arolygydd Jones aeth dros yr hanes yn gryno ac yn fanwl.

"'Does dim amheuaeth yn fy meddwl bellach," "Yr meddai Aubrey wrth yr Arolygydd a'r Sarjant. wyf yn cofio Smith—neu Elston—yn iawn. Ond nid y fo oedd y prif ddyn yn y busnes; yr oedd yno rai eraill. Daliwyd un neu ddau heblaw Smith, ond gwyddai'r plismyn bob amser fod cynllunydd galluocach na hwy o'r tu cefn yn rhywle."

"'Rydw i'n cofio'r helynt," meddai'r Arolygydd. "'Doedd dim amheuaeth nad oedd rhywun medrus iawn yn cynllunio'r cwbl, ac ni chafwyd byth hyd i hwnnw. Bu'r giang yn gweithio heb fod ymhell iawn