meddai Aubrey, "a hynny ar unwaith. Ac fe ddylent fod yn arfog, hefyd."
"Fe wneir hynny ar unwaith," meddai'r Arolygydd, "ac af i a'r Sarjant i Benlliw yn awr. Y mae'n debyg y dowch chwithau hefo ni, Mr. Aubrey?'
Gwenodd Aubrey.
"Diolch am y gwahoddiad," meddai. "Y mae'n amheus gennyf a allai holl blismyn y sir fy nghadw rhag dyfod heno. Ond," ychwanegodd yn ddifrif, "y mae'n rhaid i ni sylweddoli ein bod yn ymwneud â dynion na waeth ganddynt pa beth a wnânt pan welant ei bod wedi mynd i'r pen arnynt. Gwyddom fod Elston yn beryglus, ond yn fy marn i y mae Morley yn beryclach. Y fo ydi'r meddwl sydd y tu cefn i'r cwbwl. 'Wn i ddim am Gwynn, ond 'rydw' i'n amau, os ydi o'n meddwl bod Morley neu Elston wedi ceisio'i hudo i'r Llyn Du, ei fod o wedi penderfynu dial arnynt rywfodd neu'i gilydd. Ond awn i lawr cyn gynted ag y byddwch chwi wedi gwneud eich trefniadau, Inspector."
Ymhen llai na chwarter awr yr oedd y tri, a phlismon ieuanc, cydnerth gyda hwynt, yn cychwyn unwaith eto am ben y ffordd a oedd yn arwain i'r morfa a'r traeth. Yr oedd yn nos erbyn hyn, ond gwyddai'r Sarjant yn dda am y llwybr, ac yr oedd gan Aubrey hefyd reddf a'i galluogai i gael hyd i'w ffordd yn y tywyllwch hyd yn oed mewn lleoedd dieithr iddo. Gadwyd y car ychydig yn is na'r ffordd fawr, mewn lle nad oedd neb yn debyg iawn o'i weled, a cherddwyd yn gyflym ac yn ddistaw ar draws y gwernydd a'r morfa nes cyrraedd cwr y traeth.
Yr oedd y pedwar newydd groesi llain gyntaf y traeth pan glywsant chwibaniad y gylfinhir a'r chwibaniad arall yn ateb. Ac yna daeth sŵn arall, sŵn