lleisiau isel a sŵn fel pe buasai pobl yn yr afael â'i gilydd. Ac ar hynny daeth rhywun yn erbyn yr Arolygydd yn y tywyllwch nes peri iddo golli ei wynt. Ond yr oedd Puw, y plismon ieuanc, yn barod, a gafaelodd yn yr ymosodydd—os ymosodydd hefyd—cyn iddo gael cyfle i ymryddhau oddi wrth yr Arolygydd, a chyn pen eiliad arall yr oedd y Sarjant hefyd wedi cael ei ddwylo ar yr un dyn. Rhegodd hwnnw mewn Cymraeg croyw a huawdl, a deallodd y Sarjant mai Siôn y Bodiau ydoedd; yr oedd wedi rhyfeddu'n aruthr eu gweled—neu yn hytrach eu teimlo—yno.
"Cawn ei holi eto," meddai Aubrey, wedi deall pa beth a ddigwyddodd. "Y mae gofyn i ni fod cyn ddistawed ag y medrom yn awr. Y mae'n amlwg fod rhywbeth arall wedi digwydd draw acw."
Ar hynny fflachiodd goleuni am eiliad yn y tywyllwch o'u blaenau.
Rhowch y golau yna allan," meddai'r Arolygydd yn bendant. "Huws, y chi sydd yna? Peidiwch â siarad yn uchel."
"Ie, syr," meddai llais un o'r plismyn a fu'n gwylio ar y traeth. "Y mae Wmffra Jones yma hefyd, a rhyw ddyn diarth.'"
Erbyn hyn yr oedd y ddwy fintai fechan wedi cyfarfod ei gilydd. Yr oedd Wiffra Jones yn gafael yn un fraich i'r "dyn diarth" a Huws y plismon yn gafael yn y fraich arall. Fflachiodd Aubrey oleuni i wyneb y dyn oedd yn y ddalfa.
"Mr. Gwynn, y mae'n debyg?" meddai.
"Ie," oedd yr ateb, "a beth am hynny? Pwy 'roddodd hawl i chi na neb arall fy nghamdrin i fel hyn?"
Yr oedd yr Arolygydd yn y cyfamser wedi tynnu ei