Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceulan y Llyn Du.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

law dros Gwynn ac wedi cael hyd i'r automatic a oedd yn ei boced.

"Hanner munud, Mr. Gwynn," meddai. "Pa hawl sydd gennych chwi i fod yn crwydro'r traeth wedi nos yn arfog fel hyn? Y mae gennych gryn lawer o bethau i'w hegluro."

Dechreuodd Gwynn fygwth eilwaith, ond torrodd Aubrey ar ei draws.

"Cewch ddweud yr hyn sydd gennych i'w ddweud eto," meddai, "pan gawn Wilkins a Smith i'ch wynebu."

Rhegodd Gwynn yn groch.

'Wilkins a Smith?" meddai. "'Wn i ddim am be'r ydach chi'n sôn."

Ond erbyn hyn daethai ansicrwydd i'w lais, a thawodd yn sydyn.

"Ewch ag o o'r neilltu, Huws," meddai'r arolygydd," "ac mi fyddai'n well i Wmffra Jones ddwad efo chi,. os daw o, i ofalu na bydd Mr. Gwynn yn myned i unrhyw berygl eto. Cawn egluro'r cwbl i chwi ymhellach ymlaen, Mr. Gwynn," ychwanegai. "Y mae eisiau eglurhad ar lawer iawn o bethau."

Ac ar hynny gadawodd yr Arolygydd, Aubrey, y Sarjant a Phuw, y plismon ieuanc, y tri arall yn y tywyllwch, a cherddasant yn araf ac yn wyliadwrus i gyfeiriad Penlliw. Yr oedd yn dywyll iawn erbyn hyn, ac yr oedd yn anodd cerdded trwy'r brwyn ac ar draws y tyllau yn y traeth. Maglodd pob un ohonynt fwy nag unwaith, ond llwyddasant i gadw gyda'i gilydd o hyd. Mewn distawrwydd y symudent. Ni wyddent pa funud y gallai rhywun eto dyfod ar draws eu llwybr, ac yr oedd rhywbeth yn unigrwydd y lle hwnnw yn nhrymder nos yn peri eu bod hwythau'n