Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceulan y Llyn Du.djvu/6

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyda'r hwyr. Ar un ochr yr oedd anialwch o fryniau tywod a thociau o frwyn; ar y llall yr oedd y traeth gwastad, gwag, heb ddim i dorri arno ond olion hen glawdd yn rhywle tua'r canol, lle bu cei ers llawer dydd ar gyfer y llongau a ddeuai yno gyda'u calch a'u glo yn y blynyddoedd cynt. Nid oedd dŷ na thwlc yn y golwg ac nid oedd yr un enaid byw i'w weled o'r naill ben i'r traeth i'r llall.

Wedi dyfod o'r ffordd safodd y dyn i edrych o'i gwmpas; dyn canol oed ydoedd, yn tueddu at fod yn dew, ac wedi ei wisgo'n bur anghyfaddas i le o'r fath, mewn côt a gwasgod ddu, trwsus rhesog a het galed. Pe gwelsech ef yn dyfod oddi wrth y tren yn y dref ac yn anelu am ei swyddfa neu am y banc ni buasech yn edrych ddwywaith arno; buasai'r un fath yn union â degau o ddynion eraill o'i gwmpas. Eithr ni buasech yn disgwyl gweled neb wedi ei wisgo felly gyda'r nos ar draeth Penlliw, a hwyrach y buasai hynny'n peri i chwi edrych yn graffach arno. Ac o wneud hynny gwelech arwyddion o anesmwythyd, os nad o bryder hefyd, ar ei wyneb llyfndew, wyneb digon cyffredin. Hwyrach y buasai dyn yn dweud bod dwy olwg arno. Yr oedd y pryder neu'r anesmwythyd yn amlwg, ond gyda hynny yr oedd yno benderfyniad neu ystyfnig- rwydd hefyd. Nid oedd, gallech gasglu, yn ŵr hawdd ei droi'n ôl unwaith y penderfynai ar ei ffordd. Am y pryder, gellid cyfrif am hwnnw wrth gofio'i bod yn nosi a'i fod yntau'n amlwg yn ansicr ynghylch ei lwybr.

"At y clawdd cerrig," meddai wrtho ei hun, "y dywedodd Francis y dylwn fynd, a chroesi o'r fan honno at y bwlch yn y bryniau tywod. 'Feddyliais i erioed fod cymaint o ffordd neu mi fuaswn wedi cychwyn yn gynt. Y mae hi'n tywyllu'n gyflym, ond y mae yna ddigon o olau i weled y post y dywedodd