PENNOD X
"FEDRWN ni ddim sefyll yn y fan yma i'r bwystfil yna ymosod arnom," meddai Aubrey. "Y mae'n amlwg ei fod naill ai yn ein gweled neu yn ein synhwyro. Beth ydi'r peth gorau i'w wneud?"
"Y mae'n rhy bell i ni feddwl myned yn ôl at y bryniau tywod," meddai'r Sarjant, "ond 'dyda' ni ddim yn bell iawn oddi wrth yr hen gei sydd yn ymyl y Llyn Du. Dyna'r lle gorau, am wn i, er nad oes n y fan honno fawr iawn o godiad, 'chwaith."
"Y mae rhywle'n well na'r fan hyn," meddai Aubrey, "a 'does dim amser i'w golli. Y mae'r creadur yn dwad yn nes. Arweiniwch chi'r ffordd, Sarjant."
Troisant yn y tywyllwch, a chyn gynted ag yr oedd modd o dan yr amgylchiadau cerddasant i gyfeiriad yr hen glawdd a oedd yn cuddio'r Llyn Du ar un ochr. Yr oeddynt yn nes ato nag y tybiasant, canys daliasant fwy ar y chwith nag oedd yn rhaid iddynt wrth groesi'r traeth, ond, er gwaethaf y tywyllwch a phob anhawster arall, ar redeg y cyraeddasant y cruglwyth cerrig yn y diwedd. Yr oedd rhu'r tarw yn boenus o agos erbyn hynny, a chredai Aubrey ei fod yn clywed sŵn traed y creadur bygythiol yn dilyn ar eu holau. Efallai mai dychymyg oedd hynny; p'run bynnag, yr oedd yn dda gan bob un ohonynt gael hynny o ddiogelwch a roddid gan y domen gerrig yn lle eu bod ar y gwastad, heb ddim o gwbl i'w cadw rhag rhuthr y tarw. Pan gafodd ei wynt dywedodd Puw fel yr ymosododd y tarw ar i was Penlliw, gan ei daflu dros glawdd ar ôl ei friwio'n drwm, a cheisio myned dros y clawdd ar ei ôl wedyn er mwyn ei ladd.